Arda Emir Gokcen

Arda Emir Gokcen

Gwlad:
Twrci
Cwrs:
LLM Cyfraith Forwrol Ryngwladol

Rwy’n hapus iawn fy mod wedi dewis Prifysgol Abertawe i astudio ar gyfer gradd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol.

Mae ansawdd y rhaglen yn hollol ardderchog. Mae cwricwlwm yr LLM yn eang iawn, ac yn cwmpasu gwahanol agweddau ar gyfraith forol, a fydd yn ddefnyddiol iawn yn eich bywyd proffesiynol. Caiff y modiwlau eu haddysgu gan ddarlithwyr hyddysg a phrofiadol iawn sydd bob amser yno i’ch helpu i gyflawni eich nodau. At hynny, mae’r radd LLM yn cynnig llawer o gyfleoedd i chi gyflawni eich dyheadau o ran gyrfa yn y maes morol, megis digwyddiadau rhwydweithio, ymweliadau â chlybiau diogelu ac indemnio, cynigion ar gyfer interniaethau ac ati. Os ydych yn awyddus i astudio Cyfraith Forol Ryngwladol, Prifysgol Abertawe yn ddi-au yw’r dewis cywir.