Brooke Rees

Brooke Rees

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
BA Cymraeg

Beth gwnaethoch chi ei fwynhau fwyaf am eich cwrs ym Mhrifysgol Abertawe?

Gwnes i fwynhau'r amrywiaeth eang o fodiwlau a oedd ar gael ym Mhrifysgol Abertawe.

Yn ystod fy ngradd mewn Cymraeg, roedd yn rhaid i ni gwblhau modiwlau gorfodol megis gramadeg a siarad, yn ogystal â modiwlau heb fod yn orfodol megis hanes, y celfyddydau, cyfieithu ac ieithyddiaeth. Rhoddodd hyn gyfle i fi roi cynnig ar fodiwlau gwahanol, wrth ddysgu am fy nghryfderau a fy ngwendidau. Darganfyddais i ddiddordebau cwbl newydd, megis cyfieithu. Ar ôl cwblhau modiwl cyfieithu yn ystod fy nhrydedd flwyddyn, ces i fy ysbrydoli i gwblhau gradd meistr mewn Cyfieithu Proffesiynol.

Sut gwnaeth eich gradd helpu i'ch paratoi ar gyfer eich gyrfa?

Gwnaeth fy ngradd fy helpu i baratoi ar gyfer fy ngyrfa drwy fy orfodi i herio fy hun mewn sawl ffordd wahanol. Cwblheais i fodiwlau siarad gwahanol drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Gwnaeth y modiwlau hyn helpu fy hyder, fy sgiliau cyflwyno a fy ngallu i siarad yn gyhoeddus, ac roedd y rhain i gyd yn fuddiol pan ges i gyfweliad am fy swydd bresennol.

Pa sgiliau y gwnaethoch eu dysgu yn ystod eich astudiaethau rydych chi'n eu defnyddio nawr yn eich gyrfa?

Yn ogystal â magu mwy o hyder, datblygais i fy sgiliau trefnu hefyd. Roedd terfynau amser drwy'r amser ac roedd yn rhaid i mi flaenoriaethu agweddau penodol ar fy llwyth gwaith er mwyn fy ngalluogi i fodloni'r terfynau amser hyn.

Rwy'n defnyddio fy sgiliau Cymraeg yn fy swydd feunyddiol ac mae'n ddefnyddiol iawn gallu cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg, mewn lleoliad megis y GIG.

Rwyf hefyd yn paratoi sawl dogfen cyn iddyn nhw gael eu cyhoeddi, gan gynnwys cywiro diwyg, arddulliau/goslefau a chyfeiriadau. Drwy astudio iaith yn y Brifysgol, rwyf wedi magu'r sgiliau gofynnol hyn.

A fyddech yn argymell y cwrs hwn i ddarpar fyfyrwyr? (Esboniwch eich rhesymau)

Byddwn, yn ogystal â dysgu iaith newydd, datblygais i nifer o sgiliau sydd wedi fy helpu i lwyddo yn fy ngyrfa. Byddwn i'n argymell y cwrs hwn i unrhyw ddarpar fyfyrwyr â diddordeb yn y Gymraeg, gan fod y cwrs hwn yn eich galluogi chi i ddilyn y modiwlau o'ch dewis. Heb fy ngallu i siarad Cymraeg, dwi ddim yn credu y byddwn i'n dilyn fy ngyrfa bresennol.

Pa gyngor byddech yn ei roi i fyfyrwyr sydd am ddilyn eich gyrfa?

Er nad yw'r Gymraeg yn hanfodol i yrfa megis Cynorthwy-ydd Gweithredol, mae llawer o fanteision yn gysylltiedig â bod yn ddwyieithog mewn swydd gyffelyb, yn enwedig yng Nghymru.

Byddwn i'n cynghori myfyrwyr sydd am geisio unrhyw swydd yn y sector cyhoeddus yng Nghymru i ystyried manteision siarad Cymraeg.