Charlotte Davies

Charlotte Davies

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
MSc Meddygaeth Genomig

Y prif reswm dewisais i astudio fy ngradd(au) ym Mhrifysgol Abertawe oedd oherwydd ei bod hi wedi'i henwi fel un o'r ysgolion meddygaeth gorau yn y DU. Dewisais i astudio fy ngradd Meistr mewn Meddygaeth Genomig oherwydd fy mod i'n credu ei fod yn faes cyffrous sy'n datblygu gyda photensial enfawr i ddarparu atebion therapiwtig a diagnostig arloesol i gleifion â chlefydau cymhleth lle nad oes llawer o driniaethau effeithiol. Drwy gydol y radd, roeddwn i’n gallu datblygu fy ngwybodaeth ym maes meddygaeth genomig a hefyd, datblygais i ddealltwriaeth o sut i'w defnyddio ym maes meddygaeth ac ymarfer proffesiynol. Rhai o'r modiwlau gwnes i eu mwynhau'n fawr iawn oedd Biowybodeg ar gyfer dadansoddi Genomau, Ffarmacogenomeg, Genomeg Canser a Genomeg Clefydau Etifeddol Cyffredin a Phrin. Roedd y cwrs Meddygaeth Genomig yn hyblyg iawn ac roedd yn caniatáu i mi weithio’n rhan-amser, fel gwirfoddolwr, yn ogystal â chael profiad gwaith ym maes meddygaeth, ochr yn ochr ag astudio. Cefais hefyd y pleser o gwrdd â nifer o unigolion brwdfrydig ac angerddol a chael fy addysgu ganddynt, gan gynnwys clinigwyr , gwyddonwyr, addysgwyr iechyd cyhoeddus ac eraill. Wrth ddatblygu fy sgiliau a'm gwybodaeth ym maes genomeg, mae wedi fy mharatoi ar gyfer fy astudiaethau presennol mewn Meddygaeth i Raddedigion yma yn Abertawe a'm gyrfa yn y dyfodol fel meddyg yn y GIG.

Mae cynifer o fanteision i fyw ac astudio yn Abertawe. Byddaf wedi bod yn astudio yma am 8 mlynedd at ei gilydd, a dw i ddim yn credu y byddaf i byth yn diflasu nac yn brin o bethau i'w gwneud! Dwi'n dwlu ar syrffio a nofio yn y môr, ac mae cynifer o draethau ar garreg y drws yn Abertawe sy'n fy ngalluogi i wneud hyn. Dw i hefyd wrth fy modd yn heicio, yn cerdded ac yn rhedeg ac mae Abertawe yn llawn llwybrau prydferth, megis Marina Abertawe, a thraeth 5 milltir o hyd Abertawe, llwybrau arfordirol sy'n rhedeg ar hyd Penrhyn Gŵyr, a sawl parc. Yn ogystal, mae gan y ddinas bopeth mae ei angen arnoch i gael bywyd nos gwych, canolfan siopa, bwytai, tafarndai a chludiant rhagorol i'r ddinas ac i'r ddau gampws.

Ydych chi'n aelod o gymdeithas/wedi bod yn aelod o gymdeithas?

Yn ystod fy ngradd baglor, ymunais i â chymdeithas ambiwlans Sant Ioan er mwyn gwirfoddoli a rhoi'n ôl i'r gymuned, yn ogystal â chael profiad gwaith mewn cymorth cyntaf a chael blas ar yrfa ym maes meddygaeth.

Ydych chi wedi byw mewn preswylfa yn ystod eich astudiaethau?

Roeddwn i'n byw mewn neuadd yn ystod fy mlwyddyn gyntaf o'r radd baglor (2018-2019). Roeddwn i'n byw yn neuadd breswyl Penmaen ar Gampws Singleton. Roeddwn i'n dwlu ar aros mewn neuadd breswyl yn ystod fy mlwyddyn gyntaf, ac mae gen i lawer o atgofion hapus a ffrindiau am oes drwy ddewis aros mewn neuaddau. Mwynheais i'r cyfleusterau niferus a oedd ar gael ar y campws, a'r pellter byr iawn roedd rhaid i mi gerdded i gyrraedd darlithoedd, gan gynnwys y cyfle i gwrdd â phobl o bob cefndir yn ogystal â'r ffrindiau wnes i ar fy nghwrs. Mantais arall o fyw mewn neuadd breswyl oedd y ffaith bod campfa'r brifysgol yn agos iawn.

Ydych chi wedi gweithio’n rhan-amser yn ystod eich gradd?

Ochr yn ochr â'm hastudiaethau, dw i hefyd wedi gweithio’n rhan-amser mewn dwy swydd wahanol.

Gweithiais i fel Uwch-fyfyriwr llysgennad i Brifysgol Abertawe, a oedd yn rôl hyblyg iawn ac yn swydd wych i unrhyw fyfyriwr. Fe wnes i ddatblygu a gwella sgiliau gwerthfawr mewn arweinyddiaeth, cyfathrebu a siarad cyhoeddus, ymysg eraill. Mae'r rôl hefyd wedi cynnig cyfleoedd di-rif i mi, er enghraifft, cyfweld â llysgenhadon newydd a chymryd rhan mewn ffeiriau UCAS ledled y DU.

Hefyd, gweithiais i fel Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd i'r GIG ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe. Roedd hon hefyd yn rôl hyblyg sydd wedi dylanwadu ar y person ydw i heddiw ac mae hyn wedi fy helpu i gymryd cam arall yn nes at fod yn feddyg.