Costas Demetriou

Costas Demetriou

Gwlad:
Cyprus
Cwrs:
BSc Gwyddorau Meddygol Cymhwysol

Rhagorodd y profiad ar fy nisgwyliadau o bell ffordd! 

Cawson ni gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel efelychiad llawfeddygol, lle dysgon ni sgiliau fel pwytho a defnyddio endosgop, melinau trafod, arsylwi ar lawfeddygaeth mewnblannu falf feitrol a histoleg a gwaith labordy. 

Helpodd y rhaglen fi i feithrin amrywiaeth eang o sgiliau sy'n benodol i'r maes meddygol hoffwn i weithio ynddo, yn ogystal â sgiliau cyflogadwyedd. Roedd cael fy annog i archwilio ffyrdd newydd o feddwl yn fy herio, gan wella fy sgiliau meddwl yn feirniadol a dadansoddi. Dwi wedi cael fy ysbrydoli i weithio'n fwy caled ac i gyflawni uchelgeisiau a nodau newydd.