Deshna Jain
- Gwlad:
- India
- Cwrs:
- MSc Seicoleg Glinigol ac Iechyd Meddwl
Pam y dewisaist astudio ym Mhrifysgol Abertawe?
Roedd y modiwlau a strwythur y cwrs ym Mhrifysgol Abertawe yn ymdrin yn systematig iawn ag agweddau ar seicoleg glinigol, a hynny o sylfeini i gymwysiadau ymarferol eraill.
Allet ti ddweud wrthym am dy gwrs a beth wyt ti'n ei fwynhau fwyaf?
Rydw i'n astudio Seicoleg Glinigol. Rydw i'n meddwl fy mod i'n hoffi gwybod sut mae'r meddwl yn gweithio. Y math o reolaeth y gall un meddwl ei gael dros fywyd unigolyn, sut mae ambell air caredig neu angharedig gan ffrind neu ddieithryn yn gallu troi bywyd rhywun ar ei ben yn llwyr – mae bron fel astudio hud a lledrith.
Beth yw dy dri hoff beth am Abertawe?
- Mae yn amlwg mewn ffordd - mae hi reit ar bwys y traeth! Bob tro rydw i'n mynd heibio'r Mwmbwls neu pan fydda i'n cyrraedd neu'n gadael campws Singleton, bydda i'n teimlo'r awyr agored, yr ehangder y tu hwnt i'r traeth o'r newydd bob tro; efallai oherwydd fy mod i'n fyfyriwr newydd o hyd, neu efallai mai dim ond calon bardd yw hi.
- Rydw i'n hoffi'r bobl yma. Mae rhywun bob amser yn dal y drws ar agor i fi, mae rhywun bob amser yn gadael i fi wybod beth i'w wneud pan fydda i ar goll - a bydda i ar goll yn aml, ac ar wahân i'r system fysiau, mae bron popeth yn eithaf dibynnol. :p
- Rydw i'n teimlo bod y byd o fewn fy nghyrraedd i. Rydw i'n cwrdd â phobl wahanol o ddiwylliannau gwahanol bob dydd, rydw i'n dysgu rhywbeth newydd bob dydd, rydw i'n teimlo fy mod i'n gallu ail-greu fy hun yma. Rydw i wrth fy modd yn dysgu ac yn gwneud pethau newydd ac mae Abertawe wedi rhoi cyfle i mi wneud hynny bob dydd.
A fyddet ti'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill?
Byddwn! Yn bendant! Mae'r addysg yn wych, mae gan y campws yr holl gyfleusterau y mae eu hangen ar fyfyrwyr, mae clybiau a chymdeithasau ar y campws ar gyfer ffydd, chwaraeon, hobïau, gwleidyddiaeth, a chymunedau cymorth hefyd (er nad ydw i erioed wedi'u defnyddio).
Mae'r brifysgol hefyd yn weithgar yn wleidyddol wrth hyrwyddo cynwysoldeb a chydnabyddiaeth o rywedd, rhywioldeb, hil, a lleiafrifoedd eraill.