Eloise Stocker

Eloise Stocker

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
BSc Seicoleg

Dechreuais i fy nghwrs Seicoleg yn Abertawe yn 2018 ac roeddwn i'n byw ar Gampws Singleton yn adeilad Cefn Bryn. Un o fy hoff bethau am fyw yn Abertawe oedd y traethau (wrth gwrs!). Roedd yn wych cael lle mor arbennig ar stepen y drws. Roeddwn i hefyd yn mwynhau bod ar gampws y brifysgol yn fawr. Rydych chi mor agos at bopeth a phawb, gan ei gwneud hi'n llawer haws cymdeithasu a dysgu. Fy hoff beth am fy nghwrs yn bendant oedd y prosiect ymchwil yn y drydedd flwyddyn. Roeddwn i wrth fy modd i gael rhwydd hynt i ymchwilio i bwnc o fy newis ac yn hynod falch pan wnes i orffen y gwaith. Roeddwn i hefyd yn hoffi cael y cyfle i ddewis fy modiwlau yn y drydedd flwyddyn. Fy hoff bethau oedd seicoleg gwaith a seicoleg gadarnhaol, a gwnaeth y ddau fodiwl lywio fy llwybr ôl-raddedig. Gwnes i raddio yn 2021 ac ar hyn o bryd rwy'n dilyn gradd meistr mewn seicoleg alwedigaethol yn Ysbyty Gorllewin Lloegr. Roedd fy mhrofiad yn Abertawe'n fythgofiadwy a byddwn i'n canu clodydd y brifysgol i fyfyrwyr eraill! 

Wyt ti’n rhan o dîm/clwb chwaraeon Prifysgol Abertawe?

Dysgais i sut i rwyfo gyda Chlwb Rhwyfo Prifysgol Abertawe yn ystod fy mlwyddyn gyntaf. Rwyf mor falch fy mod i wedi ymuno â'r clwb gan ei fod yn un o fy hoff brofiadau yn y brifysgol. Mae'r hyfforddiant wir yn eich gwthio – ond mewn ffordd dda, ac roedd nosweithiau chwaraeon cymdeithasol ar nos Fercher hefyd. Roedd fy nghyfnod gyda Chlwb Rhwyfo Prifysgol Abertawe yn bleser ond nid oedd hynny'n wir bob amser am y sesiynau am 6am! 

Wyt ti’n rhan, neu wedi bod yn rhan, o gymdeithas? 

Naddo, serch hynny, cymerais i ran mewn ambell ddigwyddiad cymdeithasol yr Ysgol Seicoleg ac roedden nhw'n ddifyr iawn!

Wyt ti wedi byw mewn neuadd breswyl yn ystod dy gwrs?

Roeddwn i'n byw ar Gampws Singleton yng Nghefn Bryn. Roedd rhannu cegin â 18 o bobl yn heriol ar adegau ond roedd cael cwmni cynifer o bobl yn ei wneud yn brofiad cymdeithasol ac roedd rhywbeth i'w wneud bob amser.

Wyt ti wedi byw adref yn ystod dy gwrs?

Roeddwn i'n gweithio'n rhan-amser mewn bar, ond dim ond am ychydig fisoedd gan fod cyfuno gwaith prifysgol â bod yn rhan o dîm chwaraeon a gweithio'n rhan-amser yn ormod. Yn lle hynny, roeddwn i'n gweithio pan oeddwn i gartref yn ystod gwyliau'r haf a'r Nadolig.