Hannah Bowen

Hannah Bowen

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
BEng Peirianneg Awyrofod

Dewisais i astudio peirianneg achos roeddwn i'n berson creadigol a oedd yn mwynhau mathemateg a gwyddoniaeth, ac mae peirianneg yn gyfuniad da o'r pynciau hyn. Am nad oeddwn i wedi astudio'r pynciau angenrheidiol ar Safon Uwch, dechreuais i ar y cwrs Peirianneg gyda Blwyddyn Sylfaen yn y brifysgol. Dewisais i Abertawe oherwydd Campws y Bae (a oedd yn agor mewn pryd ar gyfer dechrau fy mlwyddyn gyntaf o astudio) a'r cyfleusterau gwych fyddai ar gael i mi.

Ar hyn o bryd, fy rôl yw peiriannydd efelychu systemau i Mercedes AMG F1, sy'n gofyn i mi efelychu ymddygiadau hylif agweddau mewnol amrywiol y car ac wedyn roi mewnbwn i optimeiddio ei berfformiad. Fel rhan o'r grŵp systemau, dwi hefyd yn gweithio ar gymorth ras yn y ffatri ar gyfer rhai o'r rasys, gan ddadansoddi'r data byw sy'n dod o'r trac.

Dwi'n meddwl i mi ddewis astudio maes awyrofod yn y lle cyntaf oherwydd y gyfran o fathemateg a oedd yn rhan o'r cwrs - roeddwn i'n dwlu ar y syniad o radd a oedd yn defnyddio mathemateg at ddibenion ymarferol.

Wrth edrych yn ôl, beth oedd rhai o'ch hoff ddosbarthiadau a pham?
Roedd gen i ddiddordeb mewn unrhyw bynciau a oedd yn cynnwys dynameg hylifau, yn enwedig y modiwl Dynameg Nwyon yn y drydedd flwyddyn. Roeddwn i'n mwynhau datrys y posau wrth ragfynegi ymddygiad hylifau. Mae'n rhaid bod y diddordeb hwnnw wedi parhau, achos dyna'r llwybr gyrfa ddilynais i.

Sut gwnaeth eich blwyddyn mewn diwydiant ddylanwadu ar eich llwybr gyrfa?
Treuliais i fy mlwyddyn mewn diwydiant yn Williams Advanced Engineering, gan weithio fel peiriannydd dylunio. Er bod fy swydd bresennol yn wahanol iawn, roedd y flwyddyn honno'n gyfle gwych i feithrin dealltwriaeth o gylch bywyd prosiect peiriannydd oherwydd roedd gofyn i mi reoli dogfen a oedd yn olrhain cynnydd pob agwedd ar y prosiect. Roedd y cysylltiadau â Formula 1 yn ddefnyddiol wrth gael fy swydd bresennol hefyd.

Pa gyfleoedd dysgu drwy brofiad eraill gwnaethoch chi achub arnynt fel myfyriwr?
Treuliais i lawer o amser yn y brifysgol fel rhan o'r tîm Student Formula, lle mae myfyrwyr yn dylunio ac yn adeiladu car rasio un sedd ac yna'n cystadlu yn erbyn prifysgolion eraill. Roedd hynny'n brofiad gwych, ac roedd hi'n fraint arwain y tîm yn fy mlwyddyn olaf. Yn anffodus, chawson ni ddim cyfle i orffen y car oherwydd Covid, ond er gwaethaf hynny, cawson ni ganlyniadau gwych yn y digwyddiadau a gafodd eu cynnal yn rhithwir.

Hefyd, treuliais i ychydig wythnosau yn Zambia gyda'r Adran Beirianneg, yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau, gan gynnwys adeiladu ardal chwarae newydd mewn cartref plant amddifad, a thrwsio cyfarpar meddygol mewn ysbyty. Roedd y daith honno'n hynod wobrwyol ac yn brofiad bydda i'n ei gofio am byth.

Roedd yr adran gyrfaoedd yn help mawr hefyd wrth fy mharatoi ar gyfer cyfweliadau a cheisiadau am fy mlwyddyn ar leoliad gwaith. Roedd gan y tîm gyfoeth o brofiad a chysylltiadau i roi i ni'r cyfle gorau posib.

Dywedwch mwy wrthym ni am eich profiad yn Abertawe
Ces i brofiad gwych ym Mhrifysgol Abertawe, ac wrth adael, roeddwn i'n barod iawn i fod yn weithiwr proffesiynol.

Mae bod yn agos at y traeth yn agos at frig y rhestr o fy hoff bethau am Abertawe, yn amlwg. Ar wahân i hynny, dwi'n meddwl bod y bobl yn gyfeillgar (ond efallai fy mod i'n bleidiol am fy mod i'n lleol) ac mae amrywiaeth enfawr o bethau i'w gwneud. Mae'n cynnig y bwrlwm byddech chi’n ei ddisgwyl o ddinas fawr â'r natur agored a'r dirwedd byddech chi’n eu disgwyl o gefn gwlad, sy'n gydbwysedd braf.

Pa gyngor byddech chi'n ei roi i ddarpar fyfyriwr israddedig? Os cei di gyfle, cer i ymweld â'r brifysgol, siarad â'r myfyrwyr llysgennad, cwrdd â'r darlithwyr. Cer am dro ar hyd y traeth ac archwilio'r ardal yn gyffredinol. Bydd tair blynedd yn hedfan mewn man lle rwyt ti'n teimlo'n hapus ac yn gartrefol.