Heather Gabriela

Heather Gabriela

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
MSc Meddygaeth Genomig

Mae fy mhrofiad yn Abertawe wedi fy ngalluogi i gael gyrfa fy mreuddwydion. Mae bod â gradd MSc mewn Meddygaeth Genomig wedi fy ngalluogi i gael lle ar Raglen Hyfforddiant Gwyddonwyr y GIG, sy'n gwrs hynod gystadleuol, ac rwyf bellach yn hyfforddi i fod yn Wyddonydd Clinigol mewn Genomig. Dewisais i ddilyn y radd MSc hon gan fy mod eisoes wedi cael profiad cadarnhaol o astudio Geneteg Feddygol ar lefel israddedig yn yr Ysgol Feddygaeth a chreodd cynnwys y cwrs a'r tiwtoriaid argraff dda iawn arnaf. Dewisais i Brifysgol Abertawe oherwydd enw da rhagorol yr Ysgol Feddygaeth am addysgu ac ymchwil a chan ei bod yn agos i'm cartref roedd hi'n haws trefnu fy mywyd fel rhiant ac athro o gwmpas fy astudiaethau. Fy hoff dri pheth am Abertawe yw'r traethau, y parciau a'r bobl. Er bod astudio yn ystod y pandemig yn her ac roeddwn i'n teimlo fy mod i wedi colli cyfle o ran yr agweddau ymarferol ar radd mewn gwyddoniaeth, roedd fy nhiwtoriaid a minnau'n hyblyg iawn gan lwyddo i addasu a throi fy nhraethawd hir yn ddadansoddiad genomau in silico. Hefyd roedd yr holl wasanaethau cymorth ar gael o bell, yn ogystal â'r darlithoedd a'r tiwtorialau. Heb os byddwn yn argymell Abertawe fel lle gwych i fyfyrwyr gan fod costau byw yno yn rhatach na llawer o rannau eraill yn y wlad. Mae llu o leoedd lle gallwch fwynhau bwyd a diod a digonedd o opsiynau chwaraeon a ffitrwydd. Ar ben hynny, nid oes gan lawer o brifysgolion draeth ar ei stepen drws! Mae wir yn ddewis gwych!

Ydych chi wedi byw gartref yn ystod eich astudiaethau?

Roeddwn i'n byw gartref yn ystod fy astudiaethau ym Mhrifysgol Abertawe a oedd yn ddefnyddiol iawn gan fy mod i'n rhiant sengl felly roedd hyn yn golygu y gallai fy merch aros yn yr un ysgol ac roedd modd i ni gadw'r un ffrindiau a'r un rhwydwaith cymorth hefyd.

Ydych chi wedi cael swydd ran-amser yn ystod eich gradd?

Rwyf yn athrawes ysgol uwchradd brofiadol felly roedd modd i mi weithio fel athrawes gyflenwi ar yr un pryd ag astudio i ychwanegu at fy incwm.

Ydych chi wedi cael cymorth i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe?

Dilynais i sawl cwrs a gynhaliwyd gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd. Roedd y cyrsiau hyn yn ddefnyddiol iawn o ran datblygu fy sgiliau ysgrifennu academaidd a meddwl yn feirniadol.