Hope Henry

Hope Henry

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
BSc Gwyddorau Meddygol Cymhwysol

Cefais sioc fawr ar ddiwrnod canlyniadau Lefel A pan ddaeth yn amlwg nad oedd fy arholiadau wedi mynd cystal ag yr oeddwn wedi gobeithio. Roedd popeth yn teimlo fel anhrefn llwyr nes i fi dderbyn galwad ffôn gan Brifysgol Abertawe, a siaradodd â fi drwy fy opsiynau.

Derbyniais le ar Flwyddyn Sylfaen y Gwyddorau Meddygol Cymhwysol, gradd sy'n cynnig Llwybr at Feddygaeth, gan mai astudio Meddygaeth oedd fy nod yn y pen draw. Gallaf ddweud yn llwyr mai hwn oedd y penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed - o'r alwad ffôn gychwynnol honno, roedd Abertawe'n credu ynof fel person ac fel myfyriwr.

Rwy’n falch iawn o ddweud, yn dilyn fy astudiaethau yn y Gwyddorau Meddygol Cymhwysol, i fi gael cynnig lle i astudio Meddygaeth i Raddedigion yn Abertawe, lle rwyf bellach yn ei ystyried yn gartref oddi cartref. Edrychaf ymlaen at barhau fy amser ym Mhrifysgol Abertawe gyda'r sialens sydd o'm mlaen ar y cwrs Meddygaeth i Raddedigion.