Iris Fiebiger

Iris Fiebiger

Gwlad:
Awstria
Cwrs:
MA Translation and Interpreting

Mae astudio dramor yn ymrwymiad ariannol mawr, felly cymerais fy amser yn dewis y brifysgol a'r cwrs cywir. Ymhlith yr holl brifysgolion y bûm yn edrych arnyn nhw, roedd Prifysgol Abertawe wir yn sefyll allan.

Roedd y cwrs yn ymddangos yn well nag unrhyw beth y gallwn i erioed ei ddychmygu, ac roedd y staff yn eithriadol o gefnogol drwy'r broses ymgeisio gyfan. Roedd hynny, ynghyd â natur syfrdanol a diwylliant cynnes Cymru, yn golygu mai Prifysgol Abertawe oedd y dewis amlwg.

Yr hyn dw i’n ei fwynhau fwyaf am fy nghwrs yw'r dull ymarferol o addysgu. Mae cyfieithu a dehongli yn broffesiynau ymarferol iawn. Mae rhaglen y cwrs yn adlewyrchu hyn ac rydyn ni'n cael llawer o ymarfer, yn aml yn efelychu senarios go iawn. Er enghraifft, yn un o'm modiwlau, rydyn ni'n rhedeg ein hasiantaethau cyfieithu (ffuglennol) ein hunain. Mae hynny'n golygu recriwtio cyfieithwyr llawrydd, cyfrifo ffioedd, a hyd yn oed cyflawni prosiectau cyfieithu. Allai e ddim bod yn fwy ymarferol na hynny.

Gan mai dim ond llond llaw o fyfyrwyr sy'n gwneud y radd, mae gan bob un ohonom ni berthynas dda iawn â'n darlithwyr. Maen nhw bob amser yn cymryd yr amser i wrando ar ein pryderon unigol ac ymateb i'n hanghenion. Roedd hyn yn arbennig o ddefnyddiol yn y dechrau pan oeddwn i newydd gyrraedd Abertawe. Hwn oedd y tro cyntaf i mi astudio dramor, ac roeddwn i'n bryderus  na fyddwn i’n gallu cadw i fyny â'm hastudiaethau neu y byddwn i’n cael trafferth ffitio i mewn. Fe wnaeth fy mentor academaidd fy nghefnogi drwy'r amser hwn ac roedd yno i mi bob amser os oedd gen i unrhyw gwestiynau neu amheuon.

Mae'r cwrs yn hyblyg iawn. Dim ond ychydig o fodiwlau sy'n orfodol, felly mae modd teilwra'r cwrs. Er mwyn manteisio i'r eithaf ar fy opsiynau gyrfa, dewisais archwilio meysydd amrywiol sy'n gysylltiedig â chyfieithu, yn amrywio o gyfieithu mewn sefyllfaoedd gofal iechyd i gynhyrchu addasiadau clyweledol. Hyd yn hyn, dw i wedi mwynhau pob un ohonyn nhw. Dyw e byth yn mynd yn ddiflas!

Ar wahân i ehangu fy arbenigedd ieithyddol yn sylweddol, mae'r cwrs wedi fy ngalluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y maes rheoli prosiectau a gweithio gydag offer CAT. Mae'r ddau beth hyn yn sgiliau pwysig yn y diwydiant cyfieithu, a dw i’n falch o fod wedi cael y cyfle i weithio arnyn nhw mewn amgylchedd diogel cyn mynd allan i'r byd "go iawn". Yn sicr, rhoddodd hyder i mi wrth siarad â darpar gyflogwyr.

Dw i’n aelod o'r Gymdeithas Arddio a'r Gymdeithas Eidalaidd. Mae bob amser yn braf cwrdd â phobl o'r un anian ac mae’n gwneud ymgartrefu yn Abertawe yn llawer haws. O botio planhigion, codi sbwriel, neu fynd allan am pizza - mae yna rywbeth hwyliog i'w wneud bob amser!

Fy nhri hoff beth am fy nghwrs yw'r amrywiaeth o fodiwlau sydd ar gael, y dull ymarferol o addysgu, a'r darlithwyr, sydd yno bob amser i helpu.

Fy hoff bethau am Abertawe yw glan y môr syfrdanol, y bobl leol gyfeillgar, a'r gymuned gefnogol, glos ar y campws.

Os ydych chi'n caru natur ac yn chwilio am rwydwaith cefnogol cryf ar gampws, yna Prifysgol Abertawe yw'r lle i chi!