Jack Rippon

Jack Rippon

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
BSc Seicoleg

Dewisais i astudio Seicoleg yn y brifysgol oherwydd bod y pwnc wedi mynd â fy mryd i pan oeddwn i'n astudio ar gyfer fy arholiadau Safon Uwch ac roeddwn i eisiau i seicoleg fod yn rhan fawr o fy ngyrfa. Pan ddechreuais i'r cwrs, roedd yr holl ddarlithwyr yn gyfeillgar iawn, gan fy helpu i ddysgu pryd bynnag byddwn i'n gofyn cwestiwn. Mae'r darlithoedd wedi bod yn eglur iawn ac yn llawn gwybodaeth y byddwn i'n ei chadw mewn cof ar ôl fy astudiaethau. Rwyf wedi mwynhau'r agweddau tawelach ar fywyd myfyriwr, fel bod yn rhan o gymdeithasau a chlwb chwaraeon er mwyn ymlacio a helpu i dynnu fy sylw oddi ar astudio o bryd i'w gilydd.

Ar ôl i mi raddio, rwy'n gobeithio cael profiad gwaith yn yr adran addysg cyn cynllunio i wneud gradd Meistr, yn y gobaith o weithio ym maes addysg uwch yn y dyfodol, naill ai mewn coleg/ysgol uwchradd neu brifysgol.

Byddwn i'n hapus i gynghori darpar fyfyrwyr i ddewis Prifysgol Abertawe. Roedd bod mor agos at y traeth yn un o'r prif resymau pam dewisais i'r brifysgol hon, ac mae'r ddinas hon yn llawn pethau i'w gweld a'u gwneud. Ceir cymdeithasau ar gyfer llawer o ddiddordebau a chredoau gwahanol, ac mae'r cyfleusterau ar y campws yn hygyrch iawn. Rwyf wedi mwynhau fy nghyfnod yn Abertawe'n fawr; yn bendant, dyma'r lle i fod!

 

Wyt ti’n rhan o dîm/clwb chwaraeon Prifysgol Abertawe?

Rwyf wedi bod yn aelod o'r clwb badminton ers dechrau fy nhrydedd flwyddyn. Mae wedi bod yn ddifyr iawn ac yn fwy poblogaidd na'r disgwyl, gan fy helpu i gwrdd â llawer mwy o bobl. 

Wyt ti’n rhan, neu wedi bod yn rhan, o gymdeithas?

Roeddwn i'n rhan o'r gymdeithas Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn fy mlwyddyn gyntaf. Roedd pawb yn gyfeillgar iawn ac yn cefnogi eraill i ddangos eu gwaith. 

Wyt ti wedi byw mewn neuadd breswyl yn ystod dy gwrs?

Rwyf wedi byw mewn neuaddau preifat drwy gydol fy mhrofiad yn y brifysgol ac rwyf wedi mwynhau hynny'n fawr. Mae'r amgylchedd yn wych ar gyfer cymdeithasu ac astudio.