Louis Bromfield

Louis Bromfield

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
PhD Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol

Ym mha gyfadran rydych chi'n gwneud eich gwaith ymchwil?

Rwyf yn yr Adran Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Diwylliannol yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.

Sut daethoch chi i astudio ym Mhrifysgol Abertawe?

Des i drwy Glirio yn 2016 pan benderfynais i fy mod i am adael y brifysgol lle roeddwn i. Ces i groeso mawr iawn i Abertawe. Ar ôl cwblhau gradd BA mewn Gwleidyddiaeth, gwnes i gyflwyno cais i astudio gradd MSc mewn Cyfrifiadureg a'i chwblhau, hefyd yn Abertawe. Roedd y cwrs hwnnw’n pwysleisio astudiaethau rhyngddisgyblaethol, felly cyfunodd fy mhrosiect MSc gyfrifiadureg a gwleidyddiaeth, ac roedd hynny'n sail i'm cais am ysgoloriaeth a a oedd yn cael ei chynnig gan Abertawe i ymgymryd â PhD yma.

Beth yw eich pwnc ymchwil?

Rwy'n ymchwilio i effeithiau rhagfynegi sy’n seiliedig ar gemau fideo ar ymgysylltiad gwleidyddol. “Gamification” yw defnyddio cysyniadau gemau fideo mewn cyd-destunau eraill. Felly, er mwyn defnyddio gemau fideo at ddiben rhagfynegi, gwnes i greu Fantasy Forecast, gwefan lle mae defnyddwyr yn cystadlu mewn twrnameintiau rhagfynegi.

Gall chwaraewyr gyhoeddi deunydd ar ffrwd, cyflwyno rhagamcanion, dringo tablau, cwblhau cwisiau, ac ennill tlysau a phwyntiau. Nod y cyd-destun cystadleuol, ochr yn ochr â'n system sgorio rhagamcanion unigryw sy'n cyfuno cywirdeb ag amser, yw cymell chwaraewyr i gadw'n weithgar a dilyn materion cyfoes.

Beth a wnaeth ysgogi eich diddordeb yn y maes hwn?

Mae'r gallu i ragfynegi canlyniadau gwleidyddol o ddiddordeb cyffredin, felly roedd apêl o'r cychwyn cyntaf. Ces i fy nghyflwyno i gysyniad defnyddio gemau fideo at ddibenion eraill yn ystod fy MSc, a ddangosodd i mi sut gallwn ni ysgogi pobl i ymgymryd â phethau newydd. Rwy'n gwerthuso fy methiant/llwyddiant drwy fesur ymgysylltiad gwleidyddol. Drwy fabwysiadu ymagwedd wybyddol at ymgysylltiad (rhywbeth y mae ychydig iawn o bobl wedi ei wneud), gallwn ni ganolbwyntio ar y ffordd y mae llunio rhagolygon yn effeithio ar lefelau gwybodaeth, diddordeb ac effeithiolrwydd rhywun.

Beth rydych chi'n gobeithio ei gyflawni gyda'ch ymchwil?

O fewn cwmpas y PhD, rwy'n gobeithio cynnal arbrofion gyda grwpiau o ddiddordeb a grwpiau safonol er mwyn mesur effeithiolrwydd y wefan wrth dargedu ymgysylltiad gwleidyddol. Y tu hwnt, mae fy ngoruchwyliwr a mi'n awyddus i ehangu'r wefan ac yn gobeithio y gallai fod yn hyb sy'n crynhoi'r doethineb torfol yn rhagolygon dealladwy am faterion cyfoes.

Beth yw'r pethau gorau am gynnal eich ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn anhygoel o groesawgar a chefnogol – gan fy mod i'n astudio fy nhrydedd radd yma, rhaid bod y brifysgol yn gwneud rhywbeth yn gywir! Mae fy nghydweithwyr yn eithriadol o gyfeillgar ac maen nhw'n gweithio'n galed i feithrin amgylchedd ymchwil cadarnhaol. Mae'r oruchwyliaeth i'm gwaith ar draws meysydd Gwleidyddiaeth a Chyfrifiadureg wedi bod yn bersonol, yn galonogol ac yn llawn parch.

Beth yw eich cynlluniau yn y dyfodol?

Fyddwn i ddim yn gwrthod unrhyw gynigion i barhau ym maes seicoleg wleidyddol a'r byd academaidd! Byddwn i wrth fy modd yn parhau i ymchwilio, ond ar hyn o bryd mae blwyddyn yn weddill o'm PhD, felly mae llawer o waith ysgrifennu yn yr arfaeth i mi.