Martin Karst

Martin Karst

Gwlad:
Denmarc
Cwrs:
LLM Cyfraith Forwrol Ryngwladol

Cyn dewis Abertawe, cynhaliais waith ymchwil trylwyr drwy fy rhwydwaith proffesiynol ac yn ddi-os, mae gan yr Adran a’r Athrofa Cyfraith Morio a Masnach Ryngwladol ym Mhrifysgol Abertawe enw ardderchog ym maes cyfraith forio a masnach.

Cadarnhawyd bod gan Abertawe enw da yn rhyngwladol o’r cychwyn pan eisteddais mewn theatr ddarlithio â myfyrwyr o bob cwr o’r byd. Ni chewch gwell cyfle i ddatblygu rhwydwaith rhyngwladol o gydweithwyr a ffrindiau. Heddiw, does dim amheuaeth gennyf fy mod wedi gwneud y penderfyniad cywir. Mae’r Adran Cyfraith Forio a Masnach yn cynnig sawl modiwl diddorol a chyfoes sy’n golygu y gallwch deilwra gradd LLM yn arbennig ar eich cyfer chi. Caiff pob modiwl ei addysgu gan ddarlithwyr sy’n arbenigwyr clodwiw yn eu maes. Caiff yr addysgu ei arwain gan ymchwil a’i lywio gan ymarfer, gan anelu at gau’r bwlch rhwng ymarfer ac academia. Cefais fudd hefyd o’r llu o weithgareddau allgyrsiol a drefnir gan yr Adran, megis darlithoedd gwadd ar bynciau cyfoes, y gystadleuaeth ddadlau heriol, ymweliadau i gwmnïau yn Llundain, digwyddiadau rhwydweithio a chyfleoedd ar gyfer interniaethau. Profiad ardderchog yn wir!