Maya Dotson

Maya Dotson

Gwlad:
Unol Daleithiau America
Cwrs:
MA Cysylltiadau Rhyngwladol

Pam y dewisaist astudio ym Mhrifysgol Abertawe? 

Mae sawl rheswm pam ddewisais Brifysgol Abertawe. Roedd yn ymddangos fel bod ganddi gymuned weithgar, glos a oedd yn bwysig i mi. Hefyd, edrychais ar sawl rhaglen Meistr wahanol ac roedd yn ymddangos bod gan Abertawe raglen a fyddai'n cyd-fynd orau â'm diddordebau. Yn ogystal, mae darlithwyr anhygoel sydd â phrofiad mewn rhai o'r meysydd astudio academaidd y mae gen i ddiddordeb mewn arbenigo ynddyn nhw.

Allet ti ddweud wrthym am dy gwrs a beth wyt ti'n ei fwynhau fwyaf? 

Rydw i'n astudio Cysylltiadau Rhyngwladol. Fel myfyriwr rhyngwladol mae wedi bod yn gyfle anhygoel i astudio gyda chyd-fyfyrwyr a darlithwyr o bedwar ban byd. Hefyd, mae llawer o bobl yn dod o gefndiroedd academaidd gwahanol, sy'n aml yn gwella ac yn cyfoethogi trafodaethau yn y dosbarth.

Beth yw dy dri hoff beth am Abertawe?

Fy nhri hoff beth am Abertawe fyddai'r bobl wych rydw i wedi cwrdd â nhw hyd yn hyn, yr ardal brydferth a'r traeth.

A fyddet ti'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill?

Yn bendant byddwn i'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr rhyngwladol eraill. Rydw i wedi dod o hyd i gymuned anhygoel ar y campws ac oddi arno. Rydw i'n dilyn cyrsiau sy'n heriol, yn ddiddorol, ac yn taflu goleuni newydd ar bethau. Mae'n un o'r lleoedd mwyaf croesawgar a diymhongar rydw i wedi byw ac astudio ynddo.