Megan Nicole Wickham

Megan Nicole Wickham

Gwlad:
De Affrica
Cwrs:
MOst Osteopatheg

Dewisais astudio ym Mhrifysgol Abertawe gan ei fod yn cynnig y cwrs yr oeddwn am ei astudio. Roedd nid yn unig yn un o'r ychydig Brifysgolion a oedd yn cynnig Osteopathi, ond roedd hefyd yn gyntaf yn y DU ar gyfer meddygaeth gyflenwol.

Roedd yn ofynnol i mi wneud blwyddyn sylfaen yn Y Coleg, Prifysgol Abertawe, ac yna integreiddio i'r rhaglen Osteopathi. Roedd cael yr opsiwn hwn ar gael yn golygu fy mod yn gallu dilyn y cwrs yr oeddwn am ei wneud, er nad oeddwn yn bodloni'r holl ofynion mynediad israddedig ar yr adeg y gorffennais fy ysgol. Roedd y ffordd o fyw y mae Abertawe'n ei chynnig hefyd yn gwneud dilyn Osteopathi ym Mhrifysgol Abertawe yn ddeniadol.

Fe wnes i ddarganfod y broses o symud i Abertawe yn weddol ddi-dor. Es i drwy asiantaeth a helpodd i drefnu fy fisa Haen 4, a phan symudais i ddechrau cefais help gan fy rhieni i ymgartrefu. Mae pobl yn Abertawe yn gyfeillgar iawn ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn barod i helpu os yr ydych yn gofyn. Cefais becyn croeso hefyd gan Y Coleg, Prifysgol Abertawe, a oedd yn nodi cam wrth gam y broses ar ôl cyrraedd y DU.

Fy hoff 3 pheth am Abertawe yw:

  • Bod yn agos i’r traethau hyfryd
  • Mae tipyn o weithgareddau awyr agored i’w gwneud
  • Mae ystod eang o siopau groser a tai bwyta sy’n agos

Fy hoff beth am y cwrs yw'r profiad ymarferol gyda chleifion go iawn. Ar ôl graddio rwy’n bwriadu cael Fisa Llwybr Graddedig, a fydd yn caniatáu i mi fyw a gweithio yn y DU am ddwy flynedd arall. Yn y cyfnod hwnnw, gobeithiaf sicrhau cyflogaeth yn y DU a chael profiad fel Osteopath.

Rwyf wedi dwlu ar brofiad prifysgol ac wedi dod o hyd i gartref yn Abertawe yn ystod fy ngradd. Mae Prifysgol Abertawe'n cynnig addysg ragorol, ac mae wedi'i lleoli mewn ardal brydferth.

Dyma'r awgrymiadau da fydden i'n eu rhoi i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n ystyried gwneud cais i Abertawe: 

Gwnewch ddefnydd da o’r holl adnoddau sydd ar gael i’ch helpu megis:

  • Gwasanaethau llyfrgell
  • Academi cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
  • Y ganolfan ar gyfer llwyddiant academaidd