Mohamed Felaya

Mohamed Felaya

Gwlad:
Yr Aifft
Cwrs:
LLB Y Gyfraith

Mohamed Felaya, LLB yn y Gyfraith (Statws Uwch)

"Rwy’n astudio’r cwrs gradd LLB yn y Gyfraith (Statws Uwch). Yn y bôn, mae’n ddwy flynedd yn lle tair blynedd am fy mod i eisoes yn meddu ar radd Baglor. Mae strwythur y cwrs yn caniatáu i mi ddilyn modiwlau dewisol sy’n rhoi llawer o gyfle i mi fabwysiadu ymagwedd â mwy o ffocws.

Mae gan Brifysgol Abertawe ystod eang o weithgareddau allgyrsiol. Ar hyn o bryd, rwy’n cymryd rhan mewn mwy na phum cystadleuaeth, Cymdeithas y Gyfraith, Cymdeithas y Bar, ac rwy’n Gynrychiolydd Pwnc ar gyfer myfyrwyr y Gyfraith yn eu blwyddyn gyntaf.

Pan oeddwn i’n ymchwilio a fyddai Prifysgol Abertawe yn addas i mi ai peidio, cysylltais â myfyrwyr eraill a dywedon nhw wrthyf am ba mor agos-atoch oedd y darlithwyr a gallaf uniaethu â hyn nawr. Mae’r darlithwyr yn gyfeillgar iawn, yn agos-atoch, ac yn gymwynasgar drwy gydol y flwyddyn academaidd. Gallaf ddweud, yn llythrennol, fod pawb yma mor gyfeillgar, y staff a’r bobl leol yn Abertawe.”