llun o Natacha

Natacha da Silva

Gwlad:
Portiwgal
Cwrs:
PhD Gwaith Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol

Dewisais i astudio ym Mhrifysgol Abertawe gan fod ganddi enw da yn y DU, a’i bod yn cynnig y radd o fy newis a llawer o gyfleoedd anhygoel.

Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?

Ar hyn o bryd, rwyf ym mhedwaredd flwyddyn fy PhD rhan-amser mewn Gofal Cymdeithasol a Gwaith Cymdeithasol. Mae fy nghwrs yn rhoi cyfle i mi frwydro dros gydraddoldeb a thegwch. Galla i fod yn ymgyrchydd â'r adnoddau cywir o fy mhlaid, drwy herio polisïau ac arferion i gefnogi unigolion dan anfantais yn well yn y gymdeithas hon.

Sut brofiad oedd astudio yn ystod y pandemig?

Gwnes i ran o fy astudiaethau yn ystod y pandemig; roedd yn rhyfedd gweld pobl ar-lein ar y dechrau, ond roeddwn i'n teimlo fy mod i'n cael fy nghefnogi gan fy mod i'n cael goruchwyliaeth wyneb yn wyneb. Roeddwn i'n teimlo bod fy llais yn cael ei glywed a bod unrhyw beth roedd ei angen arna i'n cael ei ddatrys yn gyflym. Bu farw un o'n darlithwyr gorau yn ystod y pandemig ac roedd y profiad hwnnw'n anodd heb gysylltiad dynol. Roedd cyfyngiadau ar fynd i angladdau. Roedd y darlithydd hwn yn haeddu ffarwel mawr olaf gennyn ni i gyd a doedd dim modd i ni fod gyda'n gilydd i ffarwelio ag ef. Dyma oedd y peth anoddaf am fy mhrofiad. Roedd yn ymwneud â'r cysylltiadau â phobl yn hytrach na fy astudiaethau.

Ydych chi wedi gweithio’n rhan-amser yn ystod eich gradd?

Bues i'n gweithio'n rhan-amser yn flaenorol yn ystod fy ngradd. Rwyf bellach yn gweithio'n amser llawn ac yn astudio'n rhan-amser am fy ngradd. Roedd y Brifysgol yn anhygoel o barod i ddarparu ar gyfer fy anghenion. Does dim byd negyddol gen i i'w ddweud am Abertawe ers i mi ddechrau yno yn 2015 ar fy nghwrs Meistr.

Fyddech chi'n cynghori myfyrwyr eraill i ddewis Prifysgol Abertawe? Pam?

Rwyf wedi bod yn cynghori pobl eraill i ddewis Prifysgol Abertawe o'r dechrau'n deg. Oherwydd y staff anhygoel, yr adeiladau anhygoel a'r cymorth eithriadol rydyn ni'n ei gael drwy gydol ein cyrsiau. Dyma fy ail raglen ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n gwneud y broses ddysgu cymaint yn haws ac yn bleser. Does dim byd negyddol gen i i'w ddweud am Abertawe ers i mi ddechrau yno yn 2015 ar fy nghwrs Meistr.

Beth rydych chi’n bwriadu/gobeithio ei wneud ar ôl i chi raddio?

Ar ôl graddio, rwy'n bwriadu parhau i weithio'n amser llawn ym maes gwaith cymdeithasol a chyfranogi mewn cyfleoedd ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe.

Beth yw eich hoff bethau am Abertawe?

Fy hoff bethau am Abertawe yw'r bobl, sydd mor gyfeillgar a pharod eu cymwynas. Rwy'n dwlu ar benrhyn Gŵyr. Mae'r golygfeydd a'r môr yn anhygoel ac mae cynifer o gyfleoedd gwych.