Olivia Zhou

Olivia Zhou

Gwlad:
China
Cwrs:
BSc Cyllid

Roeddwn i wedi clywed am Brifysgol Abertawe oherwydd y cynllun blwyddyn gyntaf yn fy mhrifysgol HBUT-Abertawe. Bues i'n ffodus i gael fy newis i fod yn rhan o'r cynllun a llwyddais yn yr arholiadau i gyd (gan gynnwys yr arholiadau iaith)

Roeddwn i eisiau dechrau siwrne lle roedd modd i fi fyw ac astudio yn annibynnol. Rydw i eisiau datblygu sgiliau pwysig astudio a bywyd. 

Mae'r ddau gampws yn agos at y traeth. Rydw i'n caru golygfeydd o'r môr, yn enwedig machlud!

Rwy'n astudio BSc Cyllid. Roeddwn i'n arfer astudio cyllid yn fy mamwlad felly fe helpodd lawer i mi o ran cael sylfaen a chefndir y wybodaeth, a rhoddodd hynny llawer o sgiliau cyllid defnyddiol i mi.

Fy hoff fodiwl yw cyfrifeg ariannol sef fy modiwl dewisol. Cefais gyfle i ddarparu’r dadansoddiad yn seiliedig ar ddatganiad ariannol blynyddol y BBC. Helpodd ddatblygu fy sgiliau sylwi ar fanylion yn ogystal â helpu fy sgiliau meddwl beirniadol a sgiliau dadansoddi.

Rhoddodd Abertawe lawer o help i mi hyd yn oed yn ystod y cyfnod anoddaf - y pandemig. Fe wnaethon nhw ddarparu taleb Amazon yn ogystal â rhai gweithdai diddorol i ofalu am ein hiechyd meddwl.