Omar Cordova-Cordovi

Omar Cordova-Cordovi

Gwlad:
Periw
Cwrs:
LLM Cyfraith Forwrol Ryngwladol

Ers y diwrnod cyntaf, rwyf wedi teimlo fy mod yn cael croeso ac yn cael fy annog i ddysgu rhywbeth ym mhob gwers ac ar bob cam. Mae Abertawe'n darparu amgylchedd lle ysgogir trafod syniadau, ac mae wedi creu argraff mor gadarnhaol arnaf.

O ran y dull addysgu, hoffwn bwysleisio fy mod i’n mwynhau cael fy addysgu'n bersonol gan yr athrawon, gan fod dull gwahanol yn fy ngwlad gartref.

Wrth grynhoi, hoffwn ailadrodd fy ngwerthfawrogiad i'r athrawon, y staff a fy nghyd-ddisgyblion; mae'r cyfuniad cyfan yn gwneud y profiad hwn yn fythgofiadwy, ac mae hefyd yn cadarnhau fy mod wedi gwneud y penderfyniad cywir. Rwy’n awyddus i weld yr hyn sydd gan Abertawe i'w gynnig nesaf.