Pavan Kumar Kavali

Pavan Kumar Kavali

Gwlad:
India
Cwrs:
MSc Cyfrifeg a Chyllid Rhyngwladol

Pam y dewisaist astudio ym Mhrifysgol Abertawe? 

Roedd Prifysgol Abertawe yn y 24ain safle yn gyffredinol ac roedd yn yr 28ain safle ar gyfer Cyfrifeg a Chyllid yn y DU gan The Guardian University Guide 2021. Mae gan Brifysgol Abertawe gyfuniad o gyfadrannau o rannau gwahanol o'r byd sydd wedi arallgyfeirio ac mae'n ymgorffori'r wybodaeth rydw i wedi bod yn aros i'w hamsugno. Rwy'n siŵr y bydd dod i gysylltiad â'r cyfadrannau a'r cyfleusterau yn helpu i ddatblygu fy mhersonoliaeth yn gyffredinol ac ehangu fy nghysyniadau o'r lefel israddedig i'r lefel ôl-raddedig. Y gyfadran adnabyddus ynghyd â'r cyfleusterau ymchwil o'r radd flaenaf, awyrgylch dymunol y Brifysgol a rhaglen academaidd gytbwys, yw'r ffactorau sydd wedi fy nghymell i gyflwyno cais i Brifysgol Abertawe lle byddaf yn gallu gwella fy ngwybodaeth gyda'r cyfle i ddod i gysylltiad â'r datblygiadau diweddaraf ac rwy'n siŵr y byddai'n fy helpu i feithrin fy ngyrfa mewn ffordd wych.

Allet ti ddweud wrthym am dy gwrs a beth wyt ti'n ei fwynhau fwyaf? 

Mae'r rhaglen MSc mewn Cyfrifeg a Chyllid Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe wedi'i hachredu gan Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) sef y corff proffesiynol mwyaf ym maes cyfrifyddu a gydnabyddir ledled y byd. Hefyd, mae gan Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe gysylltiadau cryf â Sefydliad Siartredig y Dadansoddwyr Ariannol (CFA), y Sefydliad Siartredig Gwarantau a Buddsoddi, a Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW). Bydd y cyswllt agos hwn â chyrff proffesiynol yn gwella fy rhagolygon gyrfa ac yn rhoi hwb i mi ffynnu yn y byd cystadleuol heddiw. Mae gan raglen MSc Abertawe mewn Cyfrifeg a Chyllid Rhyngwladol strwythur cwrs ardderchog sy'n cynnwys Marchnadoedd Ariannol Rhyngwladol, Modelu Ariannol, Sgiliau Ymchwil ac mae ganddi opsiynau i ddewis pynciau fel Cyfrifeg Rheoli, Rheoli Risg Byd-eang a Deilliadau, Llywodraethu Corfforaethol Rhyngwladol, Rheoli Asedau etc. Mae strwythur y cwrs yn fy helpu i roi hwb i fy ngyrfa a chael y swydd o'm dewis yn y dyfodol. Clywais hefyd fod gan Brifysgol Abertawe dimau cymorth i fyfyrwyr rhagorol iawn sy'n helpu'r myfyrwyr i gwblhau eu graddau Meistr yn ddidrafferth.

Beth yw dy dri hoff beth am Abertawe?

  • Mae Prifysgol Abertawe yn adnabyddus am ei rhagoriaeth ym maes ymchwil, ei henw da am addysgu, a lleoliad hyfryd ar lan y môr.
  • Sefydlwyd y Brifysgol ym 1920 ac mae wedi bod yn ddarparwr addysg o ansawdd ers 100 mlynedd.
  • Roedd Prifysgol Abertawe yn y 24ain safle yn gyffredinol a'r 28ain safle ar gyfer Cyfrifeg a Chyllid yn unol â thabl cynghrair The Guardian 2021.

A fyddet ti'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill?

Yn bendant. Hoffwn argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr rhyngwladol eraill.