Rachel Suhs

Rachel Suhs

Gwlad:
Unol Daleithiau America
Cwrs:
MSc Cymdeithas, Amgylchedd a Newid Byd-Eang

Penderfynais astudio ym Mhrifysgol Abertawe gan fy mod yn credu bod y cwrs MSc dw i’n ei wneud yn ddiddorol ac yn bwysig yn yr hinsawdd wleidyddol sydd ohoni. Roeddwn i hefyd eisiau cael cyfle i astudio dramor yng Nghymru.

Dw i’n dod o Alabama yn UDA ac fe ddes i yma i ddilyn cwrs MSc mewn Cymdeithas, Amgylchedd a Newid Byd-eang. Dw i’n mwynhau dysgu a thrafod y prif ddamcaniaethau a dadleuon mewn daearyddiaeth ddynol gan eu bod yn ymwneud ag argyfyngau gwahanol, yn enwedig newid hinsawdd.

Dw i’n hoffi pob un o'm darlithwyr; Maen nhw i gyd yn gefnogol iawn ac yn barod i dreulio amser yn egluro pethau ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gen i. Dw i wedi dysgu sut i ddefnyddio sawl math gwahanol o feddalwedd geo-ofodol a synhwyro o bell, fel QGIS, a sut i'w defnyddio i ddadansoddi.

Mae fy nghwrs yn weddol hyblyg gan fy mod yn gallu dilyn cyrsiau y tu allan i'r pwnc daearyddiaeth ddynol. Fy hoff fodiwl hyd yma yw Argyfwng a Newid Byd-eang oherwydd ei fod yn ymwneud â llawer o wahanol fathau o argyfyngau ac yn archwilio'r ffordd y caiff argyfyngau eu deall a'u trin. Mae'r modiwl hwn wedi fy nghyflwyno i lawer o academyddion, damcaniaethau a dadleuon nad oedd gen i unrhyw wybodaeth flaenorol amdanyn nhw. Roedd yn gwrs diddorol ac fe newidiodd y ffordd dw i’n gweld y byd.

Dw i wrth fy modd gyda’r ffaith bod y myfyrwyr eraill ar fy nghwrs yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd academaidd; mae hyn wirioneddol yn gwneud trafodaeth y dosbarth yn fwy cyfoethog ac yn fwy diddorol. Dw i wrth fy modd hefyd bod llawer o’r modiwlau ar fy nghwrs yn cynnwys elfennau trafod a seminar yn hytrach na darlithoedd yn unig. Mae hyn yn rhoi cyfle i ni ddysgu oddi wrth ein gilydd yn hytrach na dim ond gan yr athro. Dw i hefyd yn hoff o'r ffaith fy mod i’n gallu gwneud modiwlau mewn Gwleidyddiaeth, Rhyfel a Chymdeithas neu Daearyddiaeth Gorfforol.

Peidiwch â bod yn nerfus am gwrdd â'r tîm gyrfaoedd. Maen nhw'n wych ac yn barod iawn i helpu! Mae cymryd amser i gwrdd â nhw yn bendant yn werth ei wneud os ydych chi'n ystyried aros yn y DU ar ôl i'ch cwrs ddod i ben!

Dw i’n aelod o dîm chwaraeon Tanddwr. Dw i wrth fy modd yn gallu mynd i'r traethau yn Sir Abertawe. Dw i wrth fy modd hefyd yn gallu mynd i gerdded a threulio amser yn yr awyr agored ar benrhyn Gŵyr. Yn olaf, dw i wrth fy modd gyda’r ffaith bod gan Abertawe sin gelf wych; treulio amser yn Oriel Gelf Glynn Vivian neu Oriel Elysium yw un o fy hoff bethau i’w gwneud yma.

Cymerwch yr amser i archwilio'r gwahanol gyrsiau sy’n cael eu cynnig gan Brifysgol Abertawe a dod o hyd i'r un sy'n iawn i chi. Yn ogystal, peidiwch â bod ofn cysylltu â chydlynwyr y cwrs neu'r gyfadran sydd â'r un diddordebau ymchwil â chi.