Ruchika

Ruchika Yadav Nongrum

Gwlad:
India
Cwrs:
Meddygaeth (i Raddedigion), MBBCH

Am Feddygaeth – mae gan Brifysgol Abertawe gyfuniad unigryw o brofiad cynnar o leoliadau gwaith clinigol a sesiynau rhagflas a ddewisir gan fyfyrwyr sy’n cael eu cynnig yn y blynyddoedd cychwynnol i feithrin fy niddordeb.

Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?

Y cwricwlwm sbiral a ddylinir gan Brifysgol Abertawe, sy’n golygu ein bod ni’n cael ein haddysgu o dan themâu, sy’n cael eu gwasgaru dros wythnosau gwahanol ac yna caiff yr wybodaeth ei hailgyflwyno/hatgyfnerthu’n ddiweddarach i helpu i atgyfnerthu dysgu.

Beth rydych chi’n bwriadu/gobeithio ei wneud ar ôl i chi raddio?

Dechrau fy hyfforddiant fel meddyg ym Mlwyddyn Sylfaen 1

Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill? Pam?

Byddwn. Oherwydd ei maint perffaith – dyw’r brifysgol ddim yn rhy fawr felly bydd myfyrwyr yn yr un garfan yn gallu dod i adnabod ei gilydd. Mae’r ddinas yn gyfeillgar iawn i fyfyrwyr. Mae’r ardaloedd cyffiniol megis y traethau, Gŵyr, Bannau Brycheiniog yn cynnig cyfleoedd da am weithgareddau allgyrsiol.

Ydych chi'n aelod o gymdeithas/wedi bod yn aelod o gymdeithas?

Ydw, rwy’n gwasanaethu ar bwyllgorau dwy gymdeithas – y Gymdeithas Anatomeg a’r Rhwydwaith i Fyfyrwyr BAME yn yr Ysgol Feddygaeth.

Ydych chi wedi byw mewn neuaddau preswyl/tai i fyfyrwyr neu gartref yn ystod eich astudiaethau?

Rhentu llety preifat – Rwyf wedi byw oddi ar y campws ond byddwn i’n argymell neuaddau preswyl i fyfyrwyr newydd.

Ydych chi wedi gweithio’n rhan-amser yn ystod eich gradd?

Ydw – rwy’n gweithio fel Myfyriwr Llysgennad i Brifysgol Abertawe oherwydd bod yr oriau’n hyblyg ac yn addas i’m hamserlen astudio.

Ydych chi'n siarad Cymraeg?

Nac ydw – ond rwyf wedi dechrau cwrs i ddechreuwyr a gynigir gan yr Ysgol – Cymraeg i feddygaeth.

Beth yw eich tri hoff beth am Abertawe (y ddinas/ardal)?

Pa mor agos yw hi at y traeth – mae’n wych ar gyfer ymlacio. Gŵyr – mae’n wych ar gyfer teithiau cerdded ym myd natur a’r beiciau Santander ar y campws – mae’n wych gallu rhentu beic a theithio ar hyd y traeth i’r Mwmbwls.