Sriram Karthikeyan Raajesh Prabhu

Sriram Karthikeyan Raajesh Prabhu

Gwlad:
India
Cwrs:
MSc Cyfrifiadureg Uwch

Roedd Prifysgol Abertawe yn apelio ata i oherwydd yr amrywiaeth eang o raglenni sydd ar gael. Dewisais Prifysgol Abertawe i ddilyn fy ngradd MSc mewn Cyfrifiadureg Uwch oherwydd bod y Brifysgol yn cynnig yr amrywiaeth o wybodaeth a sgiliau sydd eu hangen ar gyfer astudio ac ymchwil parhaus. Gallwch chi ddewis ymhlith gwahanol fodiwlau'r cwrs, gan gynnwys Data Mawr a Dysgu Peirianyddol, Dadansoddeg Weledol a Chymwysiadau'r We.

Ar hyn o bryd, dw i’n astudio Cyfrifiadureg Uwch, MSc. Dw i’n dod o Madurai, dinas yn Tamil Nadu, India. Dw i’n dilyn cwrs gradd Meistr mewn Cyfrifiadureg Uwch ac yn gweithio'n rhan-amser fel Myfyriwr Llysgennad. Dw i ar fin dechrau gweithio ar fy Mhrosiect y semester nesaf ar ôl cwblhau arholiadau'r ail semester yn llwyddiannus.

Ar hyn o bryd, dw i’n astudio Cyfrifiadureg Uwch, MSc. Dw i’n dod o Madurai, dinas yn Tamil Nadu, India. Dw i’n dilyn cwrs gradd Meistr mewn Cyfrifiadureg Uwch ac yn gweithio'n rhan-amser fel Myfyriwr Llysgennad. Dw i ar fin dechrau gweithio ar fy Mhrosiect y semester nesaf ar ôl cwblhau arholiadau'r ail semester yn llwyddiannus.

Mae'r darlithwyr yn gefnogol iawn wrth egluro unrhyw ymholiadau. Byddwn yn cysylltu â nhw ar ôl i'r sesiwn ddod i ben er mwyn cael eglurhad o unrhyw faterion aneglur o'r sesiwn honno. Byddwn yn cysylltu â nhw yn ystod eu horiau swyddfa. Mae rhai darlithwyr yn creu bwrdd trafod ar dudalen Canvas y modiwl, a byddwn yn holi yn y fan honno ynglŷn ag unrhyw ymholiadau'n ymwneud â gwaith cwrs. 

Mae'r cwrs yn hyblyg iawn. Gallwn ganolbwyntio ar fy ngwaith cwrs heb boeni ei fod yn gwrthdaro â’m gweithgareddau eraill. Fy hoff fodiwl o'r semester diwethaf yw Datblygu Cymwysiadau'r We ac wedyn Rhyngweithio Rhwng Pobl a Chyfrifiaduron y semester hwn. Dysgais Laravel, fframwaith gwe sy'n seiliedig ar iaith gyfrifiadurol PHP. Mae’n debygol o fod yn ddefnyddiol yn fy awydd i weithio mewn amgylchedd datblygu meddalwedd. Dysgais am Altair hefyd, sef llyfrgell python. Bydd yn fy helpu i ddelweddu data a deall ystyr y data.

Cysylltais â'n tîm gyrfaoedd ar Gampws y Bae wedi i mi fethu â chael y swydd Cynorthwyydd Addysgu, a nhw ddywedodd wrtha i am y swydd Myfyriwr Llysgennad gan fy mod i'n chwilio am swydd ran-amser. Byddwn yn cynghori'r darpar fyfyrwyr i gasglu gwybodaeth gan y tîm Gyrfaoedd.

O ran cymdeithasau, dw i’n dilyn Cymdeithas India a Tamil Abertawe. Dw i wedi mynychu rhai o'u digwyddiadau. Cymerais ran mewn digwyddiad cwis gan Gymdeithas Gyfrifiadurol Abertawe. Mae'r cyfleusterau chwaraeon ar Gampws y Bae yn ychwanegiad gwych. Dw i’n gweld myfyrwyr yn aml yn brysur yn y gampfa neu'n cymryd rhan mewn gweithgareddau ar y cae pêl-fasged.

Fy hoff bethau am y cwrs yw:

  • Canlyniadau'r modiwl
  • Darlithwyr a'u harweiniad
  • Gwaith cwrs

Fy hoff bethau am yr ardal yw: 

  • Mae Abertawe yn enwog am olygfeydd syfrdanol ac am yr iaith Gymraeg hyfryd hefyd. Tu hwnt i'r golygfeydd hyn, mae Abertawe yn cynnig amrywiaeth o brifysgolion, gan gynnwys Prifysgol Abertawe. Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig y gorau o ddau fyd, gyda golygfeydd syfrdanol o lan y môr a rhinweddau dysgu rhagorol.
  • Mae'r ffaith bod Abertawe a Chaerdydd gyda'i gilydd yn gartref i sawl menter TG fel Amazon, Microsoft, IBM, ac Oracle yn coroni'r cyfan. Drwy ddysgu am dechnolegau newydd sy'n dod i'r amlwg fel Data Mawr, a Dysgu Peirianyddol, byddaf yn gallu mireinio gwybodaeth a fydd yn werthfawr wrth i mi ddatblygu fy ngyrfa. Drwy'r rhagolygon a gynigir gan fy nghwrs, byddaf yn gallu paratoi am yr heriau a fydd yn fy wynebu yn fy ngyrfa yn y dyfodol.
  • Mae'r Brifysgol yn darparu arweiniad gyrfaoedd a chyfleoedd cyflogaeth hefyd o dan Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA). Bydd yn ein helpu i gysylltu â'r diwydiant yn well a deall bod ein haddysg a'n profiadau yn cyd-fynd.


Byddwn i'n awgrymu i unrhyw un sy'n ystyried gwneud cais i ddod i Brifysgol Abertawe i fynd amdani. O’r hyn dw i wedi’i weld, mae'r cyfadrannau'n helpu i egluro unrhyw ymholiadau sy'n gysylltiedig â'r cwrs. Mae dysgu am dechnolegau newydd yn cael ei annog yma, ac mae hynny'n atyniad i unrhyw un.