Swapnil Bharat Pandhare

Swapnil Bharat Pandhare

Gwlad:
India
Cwrs:
MSc Hysbyseg Iechyd

Mae Prifysgol Abertawe yn brifysgol ddelfrydol i unrhyw un sy'n dymuno dilyn ei freuddwydion, gan ei bod yn darparu amrywiaeth eang o gyrsiau ac yn darparu amgylchedd addas ar gyfer dysgu pethau newydd. Mae'r brifysgol yn darparu amrywiaeth o raglenni ysgoloriaeth, sy'n helpu myfyrwyr fel fi i gyflawni ein nodau a chael cymorth ariannol. Mae gan Brifysgol Abertawe gyfadran ragorol a chostau byw teg.

Yn ôl yn India, dw i wedi gwneud PGDM mewn Rheoli Gweithrediadau ac wedi graddio mewn biotechnoleg. Dw i’n edrych ymlaen at weithio yn y sector gofal iechyd a fydd yn rhoi cyfle i mi ddysgu a herio fy hun ar yr un pryd.

Ar y cwrs dw i’n ei ddilyn, rydyn ni fel arfer yn cael cyflwyniadau yn ystod pob wythnos y cynhelir sesiynau sy’n cael eu haddysgu. Mae'r gweithgaredd hwn yn fy helpu i ryngweithio â chyd-fyfyrwyr eraill a chael eu hargraffiadau ar wahanol agweddau ar gwricwlwm y cwrs. Dw i’n mwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau o'r fath, gan fod hyn yn fy helpu i ddysgu pethau newydd mewn amgylchedd academaidd. 

Bob mis, rydyn ni'n cael un wythnos gyda sesiynau a addysgir ac yna am weddill yr wythnosau, rydyn ni wedi cael aseiniadau ymlaen llaw ar gyfer y modiwl penodol hwnnw. Mae hyn yn helpu myfyrwyr i fod yn hyblyg gyda'u hamseroedd.

Yn ddiweddar, fe wnaethom ni ddatblygu gwefan ar gyfer modiwl o'r enw "Cyfathrebu a Chodio", sef fy hoff fodiwl hyd yn hyn.

Mae'r holl ddarlithwyr yn gefnogol a chyfeillgar iawn ac maen nhw'n rhoi cipolwg da ar y pynciau penodol sy'n gysylltiedig â'r cwrs. Mae Mrs Judy Jenkins, cydlynydd ein cwrs, yn benodol, yn gefnogol iawn ac yn egluro pob pwnc yn effeithiol iawn ac mewn modd hawdd.

Dw i wedi mynychu rhai sesiynau cyfarwyddyd gyrfaoedd sy’n cael eu rheoli gan y tîm gyrfaoedd yn y brifysgol. Yn bersonol, roeddwn yn eu gweld yn effeithiol iawn gan eu bod wedi fy helpu i gael fy swydd ran-amser gyntaf yn Abertawe. Yn gyffredinol, mae'r gwasanaeth yn paratoi myfyrwyr i fod yn barod ar gyfer amgylchedd gwaith.

Dw i wedi dysgu gweithio mewn grŵp gan ei bod yn ddefnyddiol iawn gallu gweithio mewn tîm a dod i gytundeb â phawb er mwyn cyflawni'r un nod. Hefyd, dw i wedi dysgu sut i wneud gwaith ymchwil a chyfleu ein meddyliau mewn ffordd effeithiol.

Fy hoff bethau am y cwrs: 

 

  • Mae'r cwrs wedi'i strwythuro'n dda
  • Mae'n cynnwys achosion bywyd go iawn, felly mae'n helpu myfyrwyr i gael syniad am y bywyd gwaith a'r cyfrifoldebau y mae angen iddyn nhw ymdrin â nhw yn y gwaith
  • Nod y cwrs yw datblygu meddwl beirniadol mewn myfyrwyr ac mae'n caniatáu arloesi

Yn fy amser sbâr dw i'n aelod o'r Gymdeithas Asiaidd (ASOC-2)

Fy hoff bethau am Abertawe:

 

  • Traeth Abertawe
  • Llyfrgell Prifysgol Abertawe
  • Canol dinas Abertawe

Yn ddi-os, byddwn i'n cynghori darpar fyfyrwyr i ystyried Prifysgol Abertawe oherwydd ei bod yn werth astudio yn Abertawe, gan fod y Brifysgol yn cynnig llawer mwy nag addysg yn unig. Mae'n brofiad hyfryd a dw i’n teimlo y dylai pob myfyriwr ystyried astudio yma fel opsiwn posibl.