Tennessee Randall

Tennessee Randall

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
PhD Seicoleg

Beth wnaethoch chi cyn eich doethuriaeth?

Gwnes i gwblhau gradd meistr ym Mhrifysgol Abertawe mewn Seicoleg Glinigol ac Iechyd Meddwl.

A allwch chi roi trosolwg byr o bwnc eich doethuriaeth?

Enw fy noethuriaeth yw “Sustainable eating for all: Consumer acceptability of sustainable foods and behaviours in culturally diverse populations”. Mae fy ymchwil yn ystyried y ffactorau seicolegol sy'n ysgogi ymddygiadau bwyd amgylcheddol gynaliadwy, gan ganolbwyntio ar recriwtio poblogaethau diwylliannol ac economaidd-gymdeithasol amrywiol.

Pam y gwnaethoch chi benderfynu astudio ar gyfer doethuriaeth?

Nes i mi lunio traethawd hir fy ngradd Meistr, roeddwn i'n teimlo'n ansicr ynghylch fy opsiynau gyrfaol. Fodd bynnag, o ganlyniad i'r profiad o lunio traethawd hir, sylweddolais i faint roeddwn i'n mwynhau ymchwil annibynnol. Yn ogystal, cefais i gymorth anhygoel gan fy ngoruchwyliwr (Dr Laura Wilkinson), a wnaeth fy annog i gyflwyno cais am ysgoloriaeth ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe.

Pam y penderfynoch chi astudio ym Mhrifysgol Abertawe?

Rwyf wedi bod yn astudio yn Abertawe ers fy ngradd israddedig mewn Seicoleg, sef oddeutu pum mlynedd. Rwy'n teimlo bod cymuned ymchwil gref iawn yn Abertawe ac rwy'n freintiedig i fod yn rhan o grŵp Maeth, Blas a Gwybyddiaeth Abertawe (SNAC). Ar ben hynny, cefais i gymorth gwych gan y staff drwy gydol fy amser yn Abertawe.

Pa heriau rydych chi wedi’u hwynebu?

Mae dysgu sut i ddefnyddio meddalwedd dadansoddi ystadegol wedi bod yn heriol i mi. Mae llawer o'm hymchwil wedi bod yn ansoddol ond roeddwn i am i'r ddoethuriaeth fod yn gyfle i ddatblygu fy sgiliau ymchwil feintiol.

Hefyd, mae rheoli prosiectau gwahanol ar yr un pryd wedi bod yn heriol ond mae wedi gwella fy sgiliau trefnu a rheoli amser.

Sut rydych chi wedi elwa o wneud doethuriaeth?

Rwy'n teimlo bod fy sgiliau ysgrifennu wedi gwella ers i mi ddechrau ar y ddoethuriaeth. Rwyf wedi meithrin profiad o ysgrifennu protocolau ymchwil, adroddiadau ymchwil ac astudiaethau adolygu.

Mae fy hyder wrth siarad yn gyhoeddus wedi gwella gan fy mod i wedi cyflwyno fy ymchwil mewn dwy gynhadledd ac wedi trafod fy nulliau ymchwil yng nghyfarfodydd yr UK Reproducibility Network.

Rwyf wedi cael y cyfle i gymryd rhan mewn cynhadledd lle rwyf wedi cwrdd â myfyrwyr doethurol eraill o brifysgolion eraill ac rwyf wedi meithrin dealltwriaeth o'r ymchwil bresennol i fwydydd cynaliadwy.

Sut bydd eich cymhwyster yn helpu eich gyrfa? Ydy’r cymhwyster eisoes wedi helpu eich gyrfa?

Mae'r ddoethuriaeth wedi fy ngalluogi i fagu sgiliau amrywiol a fydd yn hwyluso gyrfa yn y byd academaidd, megis dadansoddi data, ysgrifennu am ymchwil, cydweithredu ag academyddion eraill a gweithio yn unol â therfynau amser.

Beth oedd yr uchafbwynt i chi?

Uchafbwynt fy mhrofiad hyd yn hyn oedd creu fy arbrawf ymchwil fy hun. Mae hwn yn cynnwys archfarchnad ar-lein ag oddeutu 300 o gynhyrchion ac yn defnyddio ymyriad newydd er mwyn annog defnyddwyr i wneud dewisiadau bwyd cynaliadwy. Yn yr astudiaeth hon, rwyf hefyd yn mesur dangosyddion biolegol emosiynau. Dyma fy arbrawf cyntaf mewn labordy, felly mae'n destun cyffro mawr i mi ddechrau casglu data a chael blas ar brofi cyfranogwyr yn y labordy.

Pa gyngor byddech chi'n ei roi i fyfyrwyr sy'n ystyried gwneud astudiaethau ôl-raddedig?

Rwy'n meddwl bod y cyfleoedd a'r profiad sy'n deillio o ymchwil ôl-raddedig yn amhrisiadwy. Ers fy ngradd israddedig, rwyf wedi bod yn brif awdur dau bapur a gyhoeddwyd. Mae ymchwil ôl-raddedig hefyd yn cynnig mwy o ddewisiadau gyrfaol i chi, felly byddwn yn annog myfyrwyr i ddilyn y llwybr hwn.