Tom Richards
- Gwlad:
- Deyrnas Unedig
- Cwrs:
- BSc Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg
Des i i Brifysgol Abertawe ym mis Medi 2021 drwy glirio. Ni chefais y canlyniadau Safon Uwch roeddwn wedi disgwyl eu cael, ac roeddwn yn pryderu am gael lle mewn prifysgol.
Roedd staff clirio'r Brifysgol wrth law ar ddiwrnod y canlyniadau i dawelu fy meddwl am fy ngraddau. Gwnaethon nhw awgrymu fy mod i'n gwneud blwyddyn sylfaen mewn Peirianneg ac wedyn byddwn i o safon briodol i ymuno â disgyblaeth peirianneg o’m dewis. Cytunais i a dwi heb ddifaru, gan i mi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen a chofrestru ar y cwrs Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg israddedig. Gwnes amlygu Abertawe yn ystod clirio gan i un o'm ffrindiau gorau astudio ei radd peirianneg yn Abertawe hefyd. Graddiodd, cafodd swydd raddedig o safon yn gyflym iawn, a rhoddodd adborth gwerthfawr ar yr addysgu, y prosiectau, y gwaith ymarferol a'r campws. Ar ôl cael cynnig lle, es i ymweld â Champws y Bae a gwnaeth y cyfleusterau newydd sbon, o'r radd flaenaf, greu argraff arna i. Roeddwn yn teimlo y byddai cael mynediad at y rhain yn gwneud i mi berfformio ar lefel uwch.
Pan symudais i Abertawe, trefnais fyw mewn llety preifat, ac roedd hynny'n hawdd ei drefnu. Mae Abertawe wedi bod yn ddinas wych i fyw ynddi. Gallwch gerdded i'r traeth o unrhyw le yn y ddinas. Mae llwyth o gampfeydd, bariau a bwytai. Fy hoff beth am fyw yma yw'r mynediad i Benrhyn Gŵyr. Mae cael ardal mor hardd ar eich stepen ddrws yn foethusrwydd ac rwyf am aros yn Abertawe dros yr haf!
Dewisais fy nghwrs am sawl rheswm. Wrth astudio fy mlwyddyn sylfaen, roedd modiwl ar Wyddor Deunyddiau, ac roeddwn yn dwlu arno. Cyn gwneud penderfyniad terfynol, gofynnais i beirianwyr o ddisgyblaethau eraill, a oedd wedi graddio a bellach yn y gweithle, am y cwrs a dywedon nhw y byddai'n benderfyniad doeth i astudio Deunyddiau. Yn ogystal â hynny, siaradais â'r academyddion a chanolbwyntio ar fy nghryfderau penodol mewn addysg a sut byddai'r cwrs yn addas i mi. Wrth wneud fy ngwaith ymchwil, edrychais tua'r dyfodol a sylwi bod digon o elfennau ymarferol i'r cwrs ac rwyf wir yn mwynhau'r dysgu ymarferol. Dywedodd yr academyddion wrthyf faint o gyfleoedd oedd ar gyfer lleoliadau gwaith ac interniaethau, a bod grantiau ymchwil enfawr ar gael gan gwmnïau megis Rolls Royce a allai roi cyfleoedd i mi ar gyfer fy mhrosiect yn fy nhrydedd flwyddyn. Mae nifer y myfyrwyr mewn carfan yn isel; felly, roeddwn yn teimlo y byddwn i'n cael profiad personol gyda'm darlithoedd. Caiff pob myfyriwr fentor academaidd sy'n rhywun y gallwch gwrdd ag ef i fynegi pryderon am y cwrs neu os bydd angen cymorth arnoch. Mae'n hyfryd cael y cymorth hwn i fyfyrwyr, oherwydd ei fod yn gwneud i mi deimlo'n gyfforddus fy mod yn gallu cael cymorth o ran fy astudiaethau.
Yn gyffredinol, wrth ddewis fy nghwrs, gwelais ddigon o gyfleoedd i gael profiad gwaith mewn diwydiant, perthynas wych ag academyddion a chyfleoedd uchel am gyflogaeth. Hyd yn hyn, cefais fy mhrofi'n gywir, rwyf wedi gwneud ffrindiau gwych ar fy nghwrs, a threfnu lleoliad gwaith dros yr haf!
Yn Abertawe, mae yna gymdeithasau a chlybiau chwaraeon. Ymunais â'r clybiau criced, badminton a phêl-fas yn ystod fy mlwyddyn sylfaen, a bellach dwi yn fy mlwyddyn gyntaf felly rwyf wedi ymuno â'r gymdeithas Peirianneg Deunyddiau. Rwyf wedi cwrdd ag amrywiaeth o bobl wahanol sydd bellach yn ffrindiau da i mi. Mae rhai ohonyn nhw eisiau mynd ymlaen i astudiaethau pellach; mae eraill eisiau mynd i fyd diwydiant, felly gobeithio y gallant roi arweiniad gwerthfawr i mi pan fyddaf yn graddio.
Byddwn yn argymell astudio Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill. Rwy'n credu bod gan y Brifysgol lu o glybiau a chymdeithasau gwych i ymuno â nhw a chwrdd â phobl eraill, mae digon o gymorth academaidd ac anacademaidd ar gael, mae'r dulliau asesu o fudd i bob math o ddysgwr, mae cyfleoedd gwych i astudio dramor a chael lleoliadau mewn diwydiant, ac mae llu o leoedd gwych i’w gweld ac ymweld â nhw wrth astudio yma, yn y ddinas a'r tu hwnt iddi.