Vincent Zhang

Vincent Zhang

Gwlad:
China
Cwrs:
LLM Cyfraith Forwrol Ryngwladol

Sut byddech chi'n disgrifio eich amser yma yn y brifysgol mewn un frawddeg?
Dyma un o'r atgofion gorau sydd gen i yn fy mywyd hyd yn hyn.

Beth yw eich 3 hoff beth am Abertawe?
• Parodrwydd athrawon i gael eu hamgylchynu gan fyfyrwyr ac ateb llu o gwestiynau ar ôl pob dosbarth
• Gwaith cwrs byr sy'n hynod heriol i'w gwblhau mewn 24 awr
• Bae Rhosili

Sut gwnaeth eich gradd eich paratoi ar gyfer eich gyrfa?
Rhoddodd wybodaeth graidd i mi o gyfraith morgludiant Lloegr, y gallu i weithio dan bwysau a datblygu fy sgiliau ysgrifennu cyfreithlon.

Pa gyngor byddech yn ei roi i fyfyrwyr sydd am ddilyn eich gyrfa?
Dyma'r penderfyniad cywir i ddod i'r DU i astudio cyfraith morgludiant ryngwladol, gan ei bod yn seiliedig ar gyfraith morgludiant Lloegr yn sylweddol. Mae Prifysgol Abertawe'n lle da iawn i'w dysgu.

Os ydych am fod yn gyfreithiwr morgludiant o fri yn y dyfodol, fe'ch cynghorir i ddysgu mwy am longau, eu strwythur, eu hanes a gwybodaeth dechnegol. Byddai'n wych dod o hyd i ffrindiau sy'n gapteiniaid er mwyn iddynt adrodd am eu hanturiaethau ar y môr hefyd!

A fyddech yn argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill?
Byddwn, yn enwedig i'r rhai hynny sydd am ddysgu am gyfraith forwrol Lloegr.