Yasmine E
- Gwlad:
- Deyrnas Unedig
- Cwrs:
- BEng (Anrh) Peirianneg Biofeddygol
Llun proffil: Cyflwynwch lun ohonoch chi i'w ddangos ar dudalen we ein straeon myfyrwyr
Eich gyrfa: Goruchwylio'r holl weithgareddau sy'n gysylltiedig ag ansawdd yn y broses gynhyrchu ceir arbennig, perfformiad uchel yn Gordon Murray Automotive. Mae hyn yn cynnwys sicrhau trosglwyddiadau llyfn o'r camau cysyniad ac Ymchwil a Datblygu i weithgynhyrchu, yn ogystal â rheoli safonau ansawdd drwy gydol y camau datblygu, cyn-gynhyrchu a chynhyrchu.
Eich profiad ym Mhrifysgol Abertawe: Roeddwn i wrth fy modd yn byw ar Gampws y Bae, gan ei fod nepell o'r traeth, yn agos at barciau cenedlaethol ac yn rhan o'r clybiau Chwaraeon eira a Chodi Pŵer. Cefais y cyfle hefyd i fynd ar daith gyfnewid i Texas A&M, a ehangodd fy ngorwelion a gwneud fy amser hyd yn oed yn fwy cofiadwy.
Beth yw eich 3 hoff beth am Abertawe: Fy hoff beth am Abertawe yw pa mor agos ydyw at Fannau Brycheiniog. Mae cael parc cenedlaethol mor agos yn ei gwneud hi'n hynod o hawdd dianc i fyd natur, boed i heicio, i archwilio rhaeadrau neu i gael seibiant yn unig. Mae'n rhoi ymdeimlad o antur i'r ardal gyfan.
Roeddwn i hefyd wrth fy modd yn cael cymaint o faeau gerllaw i syrffio. Mae'r traethau amrywiol yn golygu bod yna rywle bob amser gyda'r amodau cywir, a does dim byd gwell na syrffio a gweld yr haul yn machlud ar ddiwedd y dydd.
O'r diwedd, mae gan y stryd fawr bopeth y mae ei angen arnat yn yr un lle. Mae'n ymarferol, yn fywiog, ac yn llawn cymeriad, o siopau a chaffis i leoedd i gwrdd â ffrindiau neu i brynu hanfodion. Mae'n gwneud bywyd bob dydd yn syml ac yn ychwanegu at naws gyfeillgar, ddiymhongar y ddinas.
Pam wnaethoch chi ddewis astudio eich gradd yn Abertawe? Roeddwn i eisiau prifysgol sy'n agos at natur ond yn dal yn gysylltiedig â dinas fywiog, ac roedd Abertawe'n cynnig y cydbwysedd perffaith. Gwnaeth yr adeiladau peirianneg newydd sbon a'r buddsoddiad clir mewn cyfleusterau argraff fawr arnaf hefyd. Fe wnaeth y cyfuniad hwnnw o amgylchedd, cymuned ac adnoddau modern fy argyhoeddi mai dyma oedd y dewis cywir.
A fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i rywun sy'n ystyried mynd i'r Brifysgol? Mi fyddwn i'n argymell Prifysgol Abertawe yn fawr. Mae'n cynnig cymysgedd prin o fyw ar yr arfordir, cymuned gyfeillgar a chyfleusterau academaidd cryf. Mae bod mor agos at draethau, parciau cenedlaethol a mannau gwyrdd yn creu ansawdd bywyd anhygoel, tra bod gan y campws a'r ddinas bopeth sydd eu hangen arnoch chi. Mae'r awyrgylch yn groesawgar, mae cyfleoedd di-ri i gymryd ran, ac mae'r cydbwysedd rhwng astudio a'r ffordd o fyw yn wirioneddol arbennig. Mae'n lle gallwch chi dyfu'n academaidd wrth fwynhau amgylchedd sy'n eich ysgogi a’ch ysbrydoli.
Wnaethoch chi gyflwyno cais drwy Glirio? Do, ac roedd y broses yn llawer mwy hwylus nag yr oeddwn i'n ei disgwyl. Roedd y staff yn gyfeillgar, yn galonogol ac yn gallu ateb fy nghwestiynau yn gyflym. O ganlyniad, roedd y profiad yn llai o straen.
Sut gwnaeth eich gradd eich paratoi ar gyfer eich gyrfa? Roedd fy ngradd wedi fy mharatoi'n arbennig o dda ar gyfer fy ngyrfa. Er i mi symud i sector peirianneg gwahanol, dysgais sgiliau trosglwyddadwy cryf ar y cwrs a wnaeth roi'r hyder i mi ac i drosglwyddo'n hwylus. Datblygais sylfaen gadarn ar gyfer datrys problemau, dadansoddi data a deall systemau cymhleth, sydd i gyd yn hanfodol mewn peirianneg o safon. Dysgais sut i ymdrin â heriau technegol yn drefnus, gweithio'n effeithiol mewn timau a chyfleu canfyddiadau'n glir drwy'r gwaith labordy ymarferol a'r addysgu sy'n seiliedig ar brosiectau. Mae'r pwyslais ar gywirdeb, diogelwch ac ymwybyddiaeth reoleiddiol mewn peirianneg feddygol hefyd wedi bod yn amhrisiadwy mewn diwydiant lle mae safonau uchel a sylw i fanylion yn hanfodol.
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i fyfyrwyr sydd am ddilyn yr un llwybr gyrfa â chi? Canolbwyntiwch ar feithrin sgiliau datrys problemau a dadansoddi cryf. Ymgyfarwyddwch â data, dadansoddi achosion sylfaenol a deall sut mae systemau'n ffitio gyda'i gilydd. Gall unrhyw radd peirianneg eich arwain yno, felly manteisiwch i'r eithaf ar brosiectau, labordai a gwaith tîm i ddatblygu profiad ymarferol. Mae dod i gysylltiad ag amgylcheddau diwydiant go iawn trwy leoliadau neu interniaethau yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Yn bwysicaf oll, cadwch meddwl agored a byddwch yn chwilfrydig. Mae peirianneg o safon yn addas i bobl sy'n mwynhau gwella prosesau, gofyn cwestiynau, a rhoi sylw i fanylion.