Zoe Phillips

Zoe Phillips

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
BSc Rheoli Busnes

Ym mis Medi, byddai’n dechrau fy mlwyddyn olaf ym Mhrifysgol Abertawe. Dewisais Abertawe oherwydd roeddwn i wedi mwynhau’r diwrnodau agored – Derbyniais groeso cynnes iawn gan bawb yna a theimlais yn gartrefol o’r dechrau. Mwynheais y cyfle i gwrdd â darlithwyr, myfyrwyr a darpar fyfyrwyr. Yn ogystal, roedd bod rhyw awr i ffwrdd o adref yn bwysig i mi.

Rwyf wedi mwynhau byw yn Abertawe dros y blynyddoedd diwethaf. Fy hoff beth yw’r lleoliad gan fy mod i’n byw o fewn pellter cerdded i’r traeth, i ganol y ddinas lle mae digon o adloniant, ac i atyniadau arall megis Parc Singleton a Pharc Brynmill.

Dechreuais fy astudiaethau yng nghanol y pandemig ond ni chafodd hyn effaith fawr arna i. Mae’r Brifysgol wedi cyfathrebu pob diweddariadau i ni ac wedi cynnig digon o gymorth fel bod ni fel myfyrwyr yn hapus a chyfforddus yna. Hefyd, er bod popeth wedi bod ar ‘Zoom’, rwyf wedi cwrdd â ffrindiau newydd a derbyn addysg o safon arbennig.

Mae fy mhrofiad yn Brifysgol Abertawe wedi bod yn un wych ac yn un bythgofiadwy. Oherwydd hyn, byddwn i’n argymell y brifysgol a’r cwrs busnes i fyfyrwyr eraill.