Ar ôl Eich Graddio
Archebu eich Ffotograffau ar y llwyfan a dolen i lawrlwytho'r seremoni
Bydd yr holl fyfyrwyr yn gallu prynu ffotograff wedi’i argraffu o’u hamser ar y llwyfan gyda’r Canghellor neu’r Dirprwy-ganghellor ar ddiwrnod eu seremoni, ynghyd â dolen i lawrlwytho'r seremoni.
Gallwch chi brynu’r rhain yn bersonol ar eich diwrnod graddio yn Y Twyni, neu drwy e-bostio gradsales@abertawe.ac.uk / lenwi'r ffurflen hon. Sylwch y bydd angen talu â cherdyn yn unig.
Os ydych wedi cyflwyno archeb ar gyfer llun ar y llwyfan ac ni allwch ddod i gasglu hyn eich hun, sylwer y bydd y ffioedd postio canlynol yn berthnasol (post yn y DU yn unig - caiff yr holl eitemau eu hanfon drwy bost dosbarth cyntaf):
Ffotograffau argraffedig – hyd at dri ffotograff mawr, hyd at dri phecyn â thri ffotograff bach, neu gymysgedd o'r ddau: £4
Cynnyrch | Pris |
---|---|
Ffotograffau Argraffedig (Argraffiad o safon broffesiynol o'th amser ar y llwyfan.) Ffotograff mawr 10" wrth 8" Tri ffotograff 6" wrth 4" |
£15 £20 |
E-bost Graddio Dy holl ffotograffau ar y llwyfan, a dolen i lawrlwytho recordiad o'r seremoni. |
£15 |
Pecyn Graddio Un ffotograff argraffedig 10" wrth 8", tri ffotograff argraffedig 6" wrth 4", a'r e-bost graddio. |
£40 |
Rhowch y gwybodaeth canlynol pan rydych yn archebu:
- Enw a Rhif Myfyriwr
- Amser a Dyddiad y Cynulliad
- Cyfeiriad Post
- Nifer o copïau
Archebu Eich Tempest Ffotograff Swyddogol
Mae costau'n amrywio yn dibynnu ar y pecyn a ddewisir.
Gellir prynu'r llun swyddogol gan Tempest drwy gysylltu â:
Ffôn: 01736 752411
E-bost: graduation-photographs@htempest.co.uk
Gweler y ddolen ganlynol am fwy o wybodaeth Tempest.
Tystysgrif eich Dyfarniad
Gan ddibynnu ar pryd y cafodd eich dyfarniad ei gadarnhau, efallai eich bod eisoes wedi derbyn eich tystysgrif gradd drwy’r post.
Os oes angen Trawsgrifiad academaidd arnoch cysylltwch a myunihub@abertawe.ac.uk
Polisi Cyffuriau Anghyfreithlon
Cyn-fyfyrwyr
Antur newydd eich Dyfodol: Croeso i Deulu Cyn-fyfyrwyr Abertawe!
Nid hwyl fawr oedd eich seremoni raddio, ond dechreuad eich antur nesaf!
Ymunwch â dros 250,000 o gyn-fyfyrwyr llwyddiannus Abertawe, sydd oll yn barod i gysylltu, cefnogi a dathlu eich cyflawniadau.
Dyma pam y byddwch am barhau i gysylltu:
- Rhwydwaith Gydol Oes: Gallwch feithrin cyfeillgarwch gydol oes gyda chyn-fyfyrwyr eraill, dod o hyd i fentoriaid a chael cyfleoedd di-ri.
- Rhoi hwb i'ch Gyrfa: Gallwch gael awgrymiadau, hysbysebion am swyddi unigryw a chael cyngor ar yrfaoedd gan rwydwaith o gyn-fyfyrwyr Abertawe.
- Swansea Uni Connect: Dyma eich siop dan yr unto ar gyfer digwyddiadau rhwydweithio, cael adnoddau gyrfa ac ysbrydoliaeth i'ch cadw ar flaen y gad.
- Cael yr wybodaeth ddiweddaraf: Cewch wahoddiadau unigryw i ddigwyddiadau, aduniadau a newyddion sy'n eich cadw mewn cysylltiad â chymuned fywiog Abertawe.
Peidiwch â cholli cyfle: Diweddarwch eich manylion cyswllt (ni fydd eich e-bost yn Abertawe'n gweithio ar ôl graddio) a gallwch bori yn yr adnoddau anhygoel sy'n aros i chi yn swansea.ac.uk/alumni/new-graduates/.
Rydym yn edrych ymlaen at weld yr hyn rydych wedi'i gyflawni!
N.B. Unrhyw Gwestiynau? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych! E-bostiwch alumni@abertawe.ac.uk.
Cymorth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Gydol Oes
Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe'n cynnig cymorth gyrfaoedd a chyflogadwyedd parhaus i'n cymuned o gyn-fyfyrwyr, ni waeth pryd gwnest ti raddio.
Os wyt ti ar fin graddio, wedi graddio'n ddiweddar neu'n edrych am newid gyrfa ymhen amser, rydym yma i ti o hyd fel cyn-fyfyriwr Abertawe.
Drwy ein Rhaglen Cymorth i Raddedigion gelli di gael mynediad at ein tîm cymorth dynodedig i raddedigion, sydd wrth law i gynnig gymorth gyrfaoedd unigol iti. Gallwn hefyd dy helpu i fynd i ddigwyddiadau hyfforddi a rhwydweithio, cael bwrsariaethau cyflogadwyedd ac interniaethau a ariennir yn llawn a llawer mwy.
Cofrestra nawr i gael cymorth gyrfaoedd gydol oes!