Trosolwg Campws y Bae

|
Amserau Graddio |
09:30 |
11:30 |
14:15 |
16:15 |
|
Cofrestru |
08:00-09:15 |
09:30-11:15 |
11:30-14:00 |
14:15-16:00 |
|
Drysau yn Agor |
09:00 |
11:00 |
13:45 |
15:45 |
|
Ddarpar - raddedigion a Gwesteion i eistedd erbyn |
09:15 |
11:15 |
14:00 |
16:00 |
|
Cynulliad (diwedd o gwmpas) |
11:00 |
13:00 |
15:45 |
17:45 |
|
Dychwelyd Gŵn yn cau |
19:30 |
19:30 |
19:30 |
19.30 |
Pryd i chi'n cyrraedd
Ar dydd eich Cynulliad Graddio cynghorir myfyrwyr sydd yn graddio i gyrraedd 1-1½ awr cyn eich cynulliad.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd Ysgol Rheoli i gofrestru ar gyfer eich cynulliad, a chasglu eich cerdyn cofrestru. O'r fan honno, dylech gasglu eich gynau mewn da bryd ar gyfer eich cynulliad. Rydym yn argymell eich bod yn caniatáu 1-1½ awr cyn amser dechrau'ch cynulliad i wneud hyn. Gallwch drefnu tynnu'ch lluniau naill ai cyn eich cynulliad neu ar ei ôl. Mae'r stiwdios ffotograffiaeth hefydbwedi'u lleoli yn Y Twyni.
Yna gallwch fynd i Neuadd Fawr i eistedd ar gyfer eich cynulliad. Mae'n rhaid i chi fod yn eistedd 15 munud cyn eich cynulliad i sicrhau eich bod yn gallu cymryd rhan yn y cynulliad. Bydd y drysau i Awditoriwm y Neuadd Fawr yn agor tua 30 munud cyn y cynulliad.
Dylai ddarpar-raddedigion adael eu heitemau personol gyda’u gwesteion cyn mynd i’w seddau yn y neuadd; dim ond y cerdyn cofrestru fydd ei angen ar y ddarpar-raddedigion. Mae’n rhaid i’r darpar-raddedigion eistedd yn y sedd sydd wedi’i neilltuo iddynt; bydd rhif eich sedd wedi’i nodi’n glir ar eich cerdyn cofrestru.
Bydd Gwesteion yn cael mynediad i’r awditoriwm 30 munud cyn i’r cynulliad ddechrau. Bydd pob sedd i westeion heb ei neilltuo. Ni chaniateir mynediad i’r neuadd cyn yr amser hwn.
Bydd arwyddion yn cael eu harddangos yn glir yn ystod yr holl ddigwyddiad a bydd tywyswyr wrth law i'ch cynorthwyo.
Mae gennym leoliadau arlwyo ar gael i raddedigion a gwesteion:
Yn y cynulliad
Bydd darpar-raddedigion yn eistedd yn y sedd gyda'r un rhif sydd ar ei cerdyn cofrestru. Byddwch yn derbyn eich cerdyn cofrestru ar y dydd pan rydych yn cyrraedd a cofrestru.
Dylai ddarpar-raddedigion adael eu heitemau personol gyda’u gwesteion cyn mynd i’w seddau yn y neuadd; dim ond y cerdyn cofrestru fydd ei angen ar y ddarpar-raddedigion. Bydd cardiau cofrestru yn cynnwys rhif sedd ac enw'r darpar-raddedig a lle i ddarparu sillafiad enw ffonetig i helpu i ynganu enwau.
Bydd marsial yn dweud wrthych pryd i godi. Unwaith i chi godi byddwch yn cael eich ddangos ble i fynd i gyrraedd drws y llwyfan.
Pan fydd eich enw'n cael ei alw, byddwch yn trosglwyddo'ch cerdyn cofrestru i'r cyflwynydd cyn croesi'r llwyfan, gan dynnu eich cap i gyfarch y Canghellor neu'r Dirprwy Ganghellor ac yna’n parhau i ganol y llwyfan ac i lawr y grisiau i ddychwelyd i'ch sedd.
Ar ôl y cynulliad
Yn dilyn pob cynulliad, gellir tynnu lluniau swyddogol yn Y Twyni os nad ydych wedi gwneud hynny cyn eich seremoni.
Gallwch wisgo eich gynau academaidd drwy gydol y dydd ond rhaid eu dychwelyd erbyn yr amser a nodir uchod.
Os nad ydych yn gallu mynychu eich cynulliad o ganlyniad i amgylchiadau annisgwyl, a fyddech gystal â rhoi gwybod i ni cyn gynted â phosib.
Bydd myfyrwyr y mae eu henwau'n ymddangos yn llyfryn y cynulliad ac nid ydynt yn mynychu yn graddio yn eu habsenoldeb. Sylwer na chaiff gohiriadau eu caniatáu fel arfer, oni bai bod amgylchiadau eithriadol.
Gwesteion
Bydd modd i chi gael mynediad i'r neuadd tua 30 munud cyn y cynulliad a RHAID eich bod yn eich seddi heb fod yn hwyrach na 15 munud cyn y cynulliad. Bydd rhywun wrth law i’ch tywys.
Mae'r cynulliad yn debygol o bara oddeutu 1 awr 15 munud ac mae'n bosib felly na fyddai'n addas i blant ifanc na babanod.
Os oes unrhyw broblemau symud neu anableddau gan eich gwesteion a wnewch chi roi gwybod i ni cyn diwrnod eich Cynulliad fel bod modd i ni gadw’r seddau priodol, Cysylltu â ni.
Yn dilyn y cynulliad, gofynnir i chi adael y neuadd er mwyn i’r staff fedru paratoi ar gyfer y gynulliad nesaf. Efallai yr hoffech fynd i Y Twyni i gael ffotograffau swyddogol.
Gweld a lawrlwytho llyfrynnau graddio o'r gorffennol a'r presennol
Bydd tîm o ffotograffwyr proffesiynol o Tempest ar gael drwy gydol yr wythnos raddio a gellir dod o hyd iddynt yn Y Twyni.
Gallwch drefnu i'ch llun gael ei dynnu ar eich pen eich hun a/neu gyda'ch teulu a'ch ffrindiau. Does dim angen archebu ymlaen llaw; gallwch drefnu hyn ar y dydd.
I weld yr holl opsiynau sydd ar gael, ewch i wefan Tempest.
Mae eich seremoni raddio yn garreg filltir bwysig, a bydd ein tîm cyfryngau yno i ddal eich eiliad wrth i chi groesi'r llwyfan. Bydd amrywiaeth o opsiynau ffotograffiaeth a fideo ar gael i'w prynu ar ddiwrnod eich seremoni.
Ar gael ar y diwrnod:
Ffotograffau Argraffedig
Argraffiadau o safon broffesiynol o'ch amser ar y llwyfan:
Sylwer y bydd ffotograffau argraffedig dim ond ar gael ar y diwrnod
Casgliad digidol - £25
Mae'n cynnwys:
Caiff y rhain eu hanfon atoch drwy e-bost ar ôl eich seremoni.
Pecyn Graddio - £55
Mae'n cynnwys:
Gellir prynu'r holl nwyddau hyn ar eich diwrnod graddio yn Y Guddfan.
Rhaid talu gan ddefnyddio cerdyn.
Ar ôl yr wythnos raddio, bydd ein gwasanaeth yn dal i fod ar gael ar gyfer archebion digidol yn unig.
Byddwch yn gallu prynu eitemau drwy gwblhau'r ffurflen hon.
Bydd lluniau Graddio ychwanegol hefyd yn cael eu cynnwys yn albymau Flickr y Brifysgol.
Os yw’ch teulu a’ch ffrindiau am rannu’ch diwrnod arbennig ond does dim tocynnau ganddynt, gallant wylio’r seremoni’n fyw.
Sylwer, os byddwch yn dod â gwesteion heb docyn, gallant wylio'r cynulliadau drwy ddarllediad byw yn ystafell GH043, sydd ar lawr gwaelod y Neuadd Fawr.
Bydd ein holl seremonïau yn cael eu darlledu’n fyw ar ein gwefan yn http://www.swansea.ac.uk/graduation/ a bydd modd eu gwylio drwy’r rhyngrwyd.
Bydd y darllediad ffrydio byw’n ymddangos yn awtomatig ar ddechrau pob seremoni.
Bydd nwyddau graddio ar gael o Fulton Outfitters.

Mae'r map hwn yn amlinellu'r holl bwyntiau allweddol y gallech fod eu hangen wrth fynychu eich Seremoni Graddio Gaeaf ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd y paratoadau a'r seremonïau graddio yn digwydd ar draws y Coleg a'r Neuadd Fawr.
Am unrhyw ymholiadau sydd gennych, darllenwch y dudalen cwestiynau cyffredin neu e-bostiwch y tîm graddio.
Dylai myfyrwyr, gwesteion a staff sy'n mynychu'r Cynulliadau Graddio a Gwobrwyo fod yn ymwybodol bod y cynulliadau’n cael eu hystyried yn ddigwyddiadau cyhoeddus.
Cyhoeddir enwau a dyfarniadau (gan gynnwys y rheiny sy'n derbyn eu dyfarniadau yn eu habsenoldeb) yn y rhaglen.
Mae recordiadau sain a delweddau o'r cynulliad ar gael yn gyhoeddus drwy we-ddarllediad byw, y cyfryngau cymdeithasol a gwerthu disgiau DVD o'r cynulliad.
Drwy gadarnhau y byddwch yn bresennol yn y seremoni, rydych chi'n rhoi'r hawl i Brifysgol Abertawe argraffu'ch enw a'ch dyfarniad yng nghyhoeddiadau'r rhaglen. Mae'r rheiny sy'n dod i'r cynulliad a'u gwesteion hefyd yn rhoi'r hawl i Brifysgol Abertawe ddefnyddio recordiad(au) fideo, recordiad(au) sain, ffotograff(au) ac unrhyw gynnwys/gopïau/dyfyniadau a gynhyrchir i'w defnyddio mewn cynyrchiadau lle mae Prifysgol Abertawe am ddefnyddio'r deunydd(iau) at ddibenion marchnata a chyhoeddusrwydd, hyrwyddo masnach.
Yn unol â'r Ddeddfwriaeth Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data (2018), caiff y deunydd ei ddefnyddio'n unig at ddibenion hyrwyddo neu er lles Prifysgol Abertawe.
Gall deunyddiau barhau i fod yn gyhoeddus am gyfnod amhendant o amser a gellir eu defnyddio at ddibenion addysgol a/neu farchnata. Efallai bydd angen eu golygu at ddibenion ansawdd neu dechnegol a chaiff eu storio'n ddiogel gan y Brifysgol neu ei hasiantiaid.
Bydd gan Brifysgol Abertawe hawlfraint ar y deunydd(iau) a gellir eu defnyddio fel y maent neu ar y cyd â deunydd(iau) eraill, fel rhan o gynhyrchiad cyfansawdd.
Nodyn i'r rhai hynny nad ydynt yn mynychu (yn derbyn eu dyfarniadau yn eu habsenoldeb): Os ydych yn gwrthod i'ch data personol cael ei gyhoeddi yn y rhaglen (enw a dyfarniad), rhowch wybod i'r Swyddfa Raddio.