Paratoi ar gyfer Graddio
Archebu eich lle
I archebu eich lle yn y cynulliad graddio bydd angen i chi gwblhau'r broses archebu ar-lein.
Anfonir e-bost at eich cyfrif myfyriwr pan fydd y broses archebu ar gyfer y cynulliadau yn agor.
Rhowch wybod i ni os byddwch yn Mynychu neu Ddim yn Mynychu. Bydd y broses archebu yn dweud wrthoch pryd bydd eich Cynulliad Graddio a Gwobrwyo.
Rhaid i'r holl fyfyrwyr sy'n gymwys i fynd i seremoni raddio gofrestru i roi gwybod i ni a ydynt yn dod ai peidio. Gallwch wneud hyn drwy fewngofnodi i'r cyfrif ar y fewnrwyd a chlicio ar y crynodeb proffil ar ochr chwith y sgrîn.
I gael mynediad at eich cyfrif ar y fewnrwyd, ewch i hwb.swansea.ac.uk, clicio ar Login/Mewngofnodi, clicio ar y ddolen i'r Fewnrwyd, a mewngofnodi i'r Fewnrwyd lle byddwch yn gweld eich proffil myfyriwr. Bydd y tab Graduation yn ymddangos yn y blwch Events/Reminders o dan eich llun. Unwaith i chi glicio yma gallwch weld pryd bydd eich cynulliad graddio a gallwch gwblhau'r system cadw lle er mwyn rhoi gwybod i ni a fyddwch yn dod ai peidio.
Os ydych chi'n cael anawsterau mewngofnodi i'ch cyfrif ac mae angen cymorth arnoch, cysylltwch â'r Ddesg Gwasanaeth TG drwy ffonio 01792 604000 rhwng 7am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.swansea.ac.uk/cy/ggs/gwasanaethau-tg/cymorth/ . Sylwch fod cyfeiriad e-bost y Ddesg Gwasanaeth TG yn derbyn e-byst a anfonir o gyfrif prifysgol myfyriwr yn unig.
Cynhelir pob cynulliad yn y Neuadd Fawr, Campws y Bae Prifysgol Abertawe, Ffordd Fabian, Crymlyn Burrows, Abertawe, SA1 8EN.
Sylwer NAD yw cadw eich lle ar gyfer graddio o reidrwydd yn golygu eich bod wedi cwblhau eich rhaglen yn llwyddiannus; gwahoddir pob myfyriwr a allai gwblhau ei raglen yn llwyddiannus i'r graddio er mwyn caniatáu amser i wneud trefniadau. Dylech gofrestru beth bynnag yw'r ffactorau academaidd, ac os na fyddwch yn gymwys i raddio oherwydd methiant academaidd, gwahoddir chi i'r cynulliad nesaf sydd ar gael ar ôl cwblhau eich rhaglen yn llwyddiannus. Argymhellwn eich bod yn ystyried hyn os bydd angen i chi drefnu hediadau a/neu westy.
Cymwysedd
I fod yn gymwys i raddio:
- Rhaid eich bod wedi cwblhau eich rhaglen astudio
- Rhaid i'ch enw ymddangos ar restr cyflwyno dyfarniad swyddogol
- Rhaid eich bod wedi talu unrhyw ddyledion ffioedd dysgu sy'n ddyledus gennych i Brifysgol Abertawe. Fe'ch atgoffir o reoliadau'r Brifysgol ar gyfer talu ffioedd sy'n dynodi:
'Yn unol â rheoliadau'r brifysgol ar gyfer talu ffioedd, ni fydd modd i Gyrff Dyfarnu ystyried myfyrwyr sydd â ffioedd yn weddill i'w talu i'r Brifysgol ar gyfer mynychu cynulliadau graddio nac ar gyfer derbyn dyfarniadau.'
Os oes unrhyw ddyledion gennych i'w talu, mae angen i chi gysylltu â income.tuition@abertawe.ac.uk.
Gallwch fynd i’n sesiynau sgwrsio byw ar-lein gan ddefnyddio'r ddolen isod:
| Dydd Llun | 2.00yp - 4.00yp |
| Dydd Iau | 2.00yp - 4.00yp |
Mynychu eich Cynulliad
Os ydych am fynychu eich cynulliad graddio
- Cwblhewch y ffurflen archebu ar-lein.
Pan rydych yn archebu eich lle
- Gwnewch yn siwr fod eich enw yn gywir, bydd yn ymddangos yn union fel hyn ar eich tystysgrif
- Gwnewch yn siwr fod teitl eich cwrs yn gywir
- Rhowch wybod i ni os oes unrhyw ofynion arbennig gennych chi neu'ch gwesteion
Peidiwch ag aros tan eich bod yn derbyn eich canlyniad i roi gwybod i ni, gan y bydd hi'n rhy hwyr i'ch cynnwys erbyn hynny.
DS. Gall methu â chwblhau'r ffurflen archebu ar-lein cyn y dyddiad cau a nodir effeithio ar argaeledd tocynnau gwesteion.
Ddim yn mynychu eich Cynulliad
Os nad ydych am fynychu eich cynulliad graddio
- Cwblhewch y ffuflen archebu ar-lein i ddweud eich bod ddim yn mynychu.
- Gwnewch yn siwr fod eich cyfeiriad cartref yn gywir ar eich cyfrif mewnrwyd, bydd eich tystysgrif yn cael ei anfon i'r cyfeiriad yma.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod gennym y cyfeiriad cywir i anfon y pecyn iddo. Os anfonir y pecyn i'r cyfeiriad anghywir, bydd rhaid talu am un newydd.
Os byddwch yn newid eich cyfeiriad ar ôl i'ch pecyn gael ei baratoi, ni fydd y newid yn effeithiol. Felly, os oes angen i chi newid eich cyfeiriad cartref bedair wythnos neu fwy cyn eich Cynulliad, neu os hoffech i'r pecyn gael ei anfon at gyfeiriad arall, e-bostiwch y manylion i academic.certificates@abertawe.ac.uk
Pan rydych yn archebu eich lle
- Gwnewch yn siwr fod eich enw yn gywir, bydd yn ymddangos yn union fel hyn ar eich tystysgrif
- Gwnewch yn siwr fod teitl eich cwrs yn gywir
- Mae'n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i ni os hoffech ohirio eich presenoldeb tan flwyddyn arall yn y dyfodol (am amgylchiadau eithriadol yn unig).
Mae'n bwysig nodi os nad ydych am fynychu eich cynulliad yna cewch eich dernyn i'ch gradd neu eich dyfarniad yn eich absenoldeb.
Nodyn i'r rhai hynny nad ydynt yn mynychu (yn derbyn eu dyfarniadau yn eu habsenoldeb): Os ydych yn gwrthod i'ch data personol cael ei gyhoeddi yn y rhaglen (enw a dyfarniad), rhowch wybod i'r Swyddfa Raddio.
Gwisg Academaidd
Mae angen i holl ddarpar-raddedigion wisgo gwisg academaidd lawn yn eu cynulliad.
NI fyddwch yn gallu mynd ar y llwyfan heb wisg academaidd.
Rydych chi'n gyfrifol am archebu hon eich hun.
Y cyflenwr swyddogol o'r gwisgoedd academaidd priodol yw Ede and Ravenscroft.
Archebu eich Gwisg gan Ede & Ravenscroft
Bydd modd archebu eich gwisg academaidd yn nes at ddyddiadau'r seremonïau, gyda dyddiadau penodol i'w cadarnhau.
Gallwch archebu eich gŵn mewn un o ddwy ffordd:
- ar y rhyngrwyd
- drwy ffonio ar y rhif canlynol: 0870 2421170 [Oriau swyddfa 0900-1700]
Cyn i chi ddechrau, bydd angen i chi wybod
- cylchedd eich pen (I wneud yn siŵr eich bod yn cael y maint het cywir, mesurwch gylched eich pen un fodfedd uwchben eich ael, mesurwch o gwmpas eich pen ar y lefel honno a nodwch y mesuriad naill ai mewn modfeddi neu gentimetrau.)
- mesuriadau eich brest
- eich mesuriad uchder
a gwneud yn siŵr bod manylion eich cerdyn credyd/debyd gennych wrth law.
I wybod pa gŵn i archebu defnyddiwch ein Canllaw i ddewis eich Gwisg Graddio .
Byddant yn cydnabod eu bod wedi derbyn eich archeb wrth ei phrosesu ond mae'n bosib na fyddwch yn ei derbyn tan 10 diwrnod cyn eich cynulliad.
Os oes unrhyw ofynion arbennig gennych ynglŷn â'ch gŵn, h.y. mawr iawn, neu fach iawn, neu gŵn sy'n addas i'w wisgo gyda chadair olwyn, rhowch wybod i Ede and Ravenscroft Ltd wrth archebu.
Mae'r holl gynau graddio yn costio £52 i'w llogi os cânt eu harchebu cyn y seremonïau. Bydd cost llogi gŵn yn cynyddu ar y diwrnod.
Am gost ychwanegol, mae'n bosib llogi eich gŵn am amser ychwanegol. Mae hyn yn caniatáu i chi fynd â'ch gŵn adref i gael mwy o luniau wedi'u tynnu.
Rhaid dychwelyd y gynau i Ede and Ravenscroft o fewn 7 diwrnod, gyda'r unigolyn sy'n llogi yn talu'r gost. Caiff bag dychwelyd ei amgáu gyda'ch gŵn wrth i chi ei gasglu.
Mae ad-daliadau ar gael os nad ydych yn gallu mynychu eich cynulliad am ryw reswm.
Yn yr achos hwn, rhaid i chi ysgrifennu at Ede and Ravenscroft ar y cyfeiriad isod i roi gwybod iddynt eich bod am ganslo ar y cyfle cynharaf posib.
Ede and Ravenscroft Ltd.
Unit A, Denny Industrial Centre
Waterbeach
Caergrawnt
CB5 9QD
Tocynnau
Cyn belled â bod y ffurflen archebu graddio ar-lein wedi'i chwblhau cyn y dyddiad cau gwarantir 2 docyn gwestai am ddim.
Rydym yn sylweddoli y gall gyfyngu nifer y tocynnau i 2 i bob myfyriwr achosi peth siomedigaeth, ond gobeithio y gallech werthfawrogi mai nifer penodol o seddi sydd ar gael yn y lleoliad ac nid oes modd i ni fynd dros y nifer hwn.
Ni allwn warantu tocynnau gwesteion i’r sawl sy’n ymateb ar ôl ein dyddiad cau.
NID OES angen tocyn ar fyfyrwyr i fynychu eu cynulliad.
Mae’r seddau i westeion wedi'u rhannu rhwng seddau lefel llawr a seddau rhenciog. Os oes gan westeion ofynion arbennig sy’n gofyn am seddau lefel llawr rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu eich tocynnaufel y gallwn ddarparu ar eu cyfer.
Tocynnau Gwesteion
Dim ond 2 docyn fyddwn yn eu dosbarthu ar hyn o bryd.
Ar gyfer gwesteion ychwanegol mae gennym ystafelloedd darlledu byw gyda seddi ar gael yn y Neuadd Fawr. Mae’r ystafelloedd hyn yn gwbl hygyrch ac mae croeso i chi ddod â chynifer o westeion ag y dymunwch.
Plant
Rydym yn cydnabod bod seremonïau graddio'n achlysuron i'r teulu ac mae croeso i blant ddod. Serch hynny, rhaid iddynt fod yng nghwmni oedolyn. Mae'r cynulliadau'n para tuag awr a phymtheng munud felly efallai nad ydynt yn addas i blant ifanc iawn. I barchu gwesteion eraill, rydym yn gofyn i chi fynd â phlant allan os ydynt yn cynhyrfu yn ystod y cynulliad fel nad ydynt yn tarfu ar y seremoni a gwesteion eraill. Rydym yn cadw'r hawl i ofyn i blant (neu oedolion) adael yr awditoriwm yn ystod y seremoni os ydynt yn gwneud sŵn diangen neu'n tarfu ar y seremoni neu westeion eraill.
Dylai plant dan 2 oed eistedd ar lin oedolyn ac nid ar sedd. Nid oes angen tocyn arnynt.
Rhaid i blant 2 oed ac yn hŷn gael tocyn i gael mynediad i'r cynulliad.
Tocynnau Gofalwr
Os oes angen gofalwr ar unrhyw un o'ch gwesteion i fynd gydag ef i'r seremonïau, gallwn ni ddarparu tocyn ychwanegol am ddim ar ôl gweld tystiolaeth o un o'r canlynol:
- Hawl i Lwfans Byw i'r Anabl (DLA) i blant dan 16 oed neu DLA/Taliadau Annibynnol Personol (PIP) ar gyfer unigolion 16-64 oed, naill ai ar ffurf llythyr yn nodi bod y budd-dal wedi'i ddyfarnu, neu'r llyfr Lwfans gwirioneddol.
- Llythyr dyfarnu Lwfans Gweini neu Lwfans Gofalwr.
- Llyfrau Budd-dal Analluogedd, neu lythyr yn hysbysu'r derbynnydd bod y budd-dal wedi cael ei ddyfarnu - Budd-dal Analluedd neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA).
- Bathodyn Glas dilys.
- Yn achos amhariad ar y golwg, cerdyn cofrestru o'r enw BD8 neu Dystysgrif Amhariad ar y Golwg (CVI).
- Dogfen gofrestru awdurdod lleol sy'n lleol i'r atyniad lle mae'n cael ei chyflwyno.
- Cerdyn Adnabod cydnabyddedig i Gi Cymorth.
- Cerdyn Mynediad CredAbility â symbol +1.
- E-bostiwch gradaccessibility@abertawe.ac.uk gyda'ch cais a'ch tystiolaeth.
Bydd pob seremoni yn cael ei darlledu'n fyw ar ein gwefan yn http://www.swansea.ac.uk/graduation/ a gellir ei gwylio drwy'r rhyngrwyd.
Fisâu ar gyfer Graddio
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sy'n dymuno dod i'w seremoni raddio, ac nid oes digon o amser ganddynt ar eu fisa bresennol, gyflwyno cais am Fisa Safonol o gartref. Nid yw'n bosib estyn fisa Llwybr Myfyrwyr yn y DU er mwyn mynd i seremoni raddio'n unig.
Fisa Ymweliad Safonol hefyd yw'r fisa gywir ar gyfer teulu a ffrindiau, a all fod yn teithio i ddod i'ch seremoni raddio o dramor.
Cyngor VISA (a elwid gynt yn International@CampusLife) wybodaeth gynhwysfawr ar gael ar eu tudalen Llwybr Fisa Ymwelwyr Safonol y DU. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y dudalen i gael arweiniad ar gymhwysedd, y broses cyflwyno cais a dogfennau awgrymedig. Sylwer na fydd angen llythyr penodol gan y Brifysgol am Raddio arnoch gan nad yw'n cael ei restru yng ngofynion yr UKVI. Serch hynny, efallai yr hoffech gynnwys amserlen y seremonïau graddio ac e-bost cadw lle ar-lein (sy'n cael ei anfon yn awtomatig at yr holl fyfyrwyr sy'n graddio tua 6 i 8 wythnos cyn y seremoni) neu dudalen we wedi’i hargraffu o wefan y Brifysgol sy’n cadarnhau dyddiad y seremoni raddio.
Amodau a Thelerau Graddio - Gaeaf
Gofynnir i fyfyrwyr ddarllen a deall yr Amodau a Thelerau isod a chysylltu â'r Tîm Graddio os oes ganddynt unrhyw ymholiadau drwy e-bostio graduation@abertawe.ac.uk
Drwy gyflwyno cais i fynd i Seremonïau Graddio'r Gaeaf mae'r myfyriwr yn cytuno i'r canlynol:
Lleoliad, Dyddiad ac Amser y Seremoni
- Cynhelir cynulliadau graddio yn y Neuadd Fawr, Campws y Bae Prifysgol Abertawe, Ffordd Fabian, Twyni Crymlyn, SA1 8EN.
- Disgwylir y bydd yr amserlen raddio derfynol yn cael ei rhyddhau i fyfyrwyr ym mis Medi/Hydref.
- Gall dyddiad ac amser pob seremoni raddio newid, er enghraifft pan fo angen cyfuno cynulliadau.
- Disgwylir y bydd archebu ar-lein i fyfyrwyr yn agor ym mis Hydref.
- NID yw darparu'r amodau a thelerau hyn a chadw lle mewn seremoni raddio yn golygu'n awtomatig bod myfyriwr wedi cwblhau ei raglen yn llwyddiannus. Gwahoddir pob myfyriwr a all gwblhau ei raglen yn llwyddiannus i seremoni raddio er mwyn caniatáu amser i wneud trefniadau. Dylai myfyrwyr archebu lle yn eu seremoni raddio ni waeth beth fo'u ffactorau academaidd, ac os cânt wybod wedi hynny nad ydynt yn gymwys i raddio oherwydd methiant academaidd, bydd eu harcheb ar gyfer y seremoni raddio yn cael ei chanslo (ynghyd ag unrhyw docynnau gwesteion a fydd yn cael eu had-dalu) a byddant yn cael eu gwahodd i'r cynulliad graddio nesaf sydd ar gael ar ôl iddynt gwblhau eu rhaglen yn llwyddiannus.Rydym yn argymell bod myfyrwyr yn ystyried hyn yn ofalus os bydd angen trefnu teithiau hedfan a/neu archebu gwesty.
- Nid yw Prifysgol Abertawe yn gyfrifol am unrhyw gostau y gall myfyrwyr a gwesteion fynd iddynt, gan gynnwys teithio neu lety neu gynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain, ac nid yw’n derbyn unrhyw atebolrwydd am gostau o’r fath.
Tocynnau a Chofrestru
- Nid yw presenoldeb mewn seremoni raddio yn orfodol ac nid yw’n cael unrhyw effaith ar ddyfarnu gradd myfyriwr.
- Bydd tystysgrifau gradd ar gael i'w casglu yn y cynulliadau os dyfarnwyd eich gradd 8 wythnos cyn y cynulliadau Gallai myfyrwyr y cadarnhawyd eu canlyniadau gan fwrdd arholi cyn mis Hydref fod wedi cael eu tystysgrif gradd drwy'r post i gyfeiriad cartref y myfyriwr eisoes. Os nad yw tystysgrifau gradd yn bresennol yn ystod y seremoni raddio, neu os nad yw myfyriwr yn mynd i'w gynulliad, bydd tystysgrifau gradd yn cael eu hanfon drwy’r post at y myfyrwyr hynny hyd at ddau fis ar ôl dyfarnu eu gradd.
- Lle caniateir i fyfyrwyr fynd i'r seremoni raddio ar ôl i'r system archebu ar-lein gau, ni ellir gwarantu y bydd tocynnau ychwanegol ar gael i westeion.
- Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu neu leihau nifer y tocynnau gwesteion a ddyrennir i bob seremoni.
- Ni ellir dal y Brifysgol yn atebol am gost unrhyw drefniadau teithio, cynhaliaeth neu lety y mae graddedigion neu westeion yn mynd iddynt os na fydd y myfyriwr yn ennill ei ddyfarniad mewn pryd ar gyfer ei seremoni ac felly ni fydd bellach yn gymwys i fod yn bresennol.
- Bydd dau docyn gwestai yn cael eu dyrannu i bob myfyriwr yn rhad ac am ddim.
- Ni fydd y Brifysgol yn caniatáu mynediad i Awditoriwm y Neuadd Fawr i unrhyw westeion sy'n cyrraedd y seremoni heb docyn electronig.
- Rhaid i bob gwestai sy'n cael mynediad i'r awditoriwm ar gyfer y seremoni feddu ar e-docyn, gan gynnwys plant dros ddwy oed. Ni fydd angen tocyn ar blant dan ddwy oed a gallant fynd i'r seremoni am ddim ond ni fydd sedd yn cael ei dyrannu ac felly bydd rhaid iddynt eistedd ar lin gwestai. Nid oes angen e-docyn ar fyfyrwyr a byddant yn gallu mynd i'w seremoni raddio am ddim.
- Ni allwn warantu y bydd tocynnau ychwanegol ar gael ar gyfer eich seremoni. Os bydd tocynnau gwesteion ychwanegol ar gael, bydd myfyrwyr cymwys yn cael dolen i brynu tocynnau gwesteion ymhen mis cyn eu cynulliad graddio.
- Rhaid prynu pob tocyn gwestai drwy ddarparwr tocynnau gwestai Prifysgol Abertawe, a byddwn yn cadarnhau hyn unwaith y bydd bwrdd arholi mis Tachwedd wedi'i gynnal a phan fo cymhwysedd myfyrwyr yn hysbys.
- Bydd pob tocyn gwestai ychwanegol (ar beny ddau docyn am ddim a ddyrennir yn awtomatig) yn costio £25.00 i'w brynu.
- Ni ellir ad-dalu cost unrhyw docynnau gwestai (ac eithrio yn achos digwyddiadau annisgwyl fel y’i nodir isod).
- Ni fydd tocynnau gwesteion ar gael i'w prynu ar y diwrnod a rhaid eu prynu yn unol â’r amserlen a bennir gan y Brifysgol yn ei chyfathrebiad am docynnau gwesteion.
- Os na all myfyriwr fynd i'r cynulliad a neilltuwyd iddo, ni all y Brifysgol warantu y cynigir seremoni arall.
Ad-daliadau a Chyfnewid Tocynnau Gwesteion
- Ni ellir ad-dalu cost tocynnau na’u cyfnewid oni bai bod y cynulliad graddio wedi'i ganslo neu ei aildrefnu.
- Os caiff y seremoni raddio ei chanslo neu ei gohirio neu os caiff y seremoni ei haildrefnu (gan gynnwys y dyddiad, yr amser a/neu'r lleoliad) oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth Prifysgol Abertawe, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain) storm, tân, llifogydd, ffrwydrad, gweithred derfysgol (neu fygythiad o weithred derfysgol), gweithred Duw, epidemig neu bandemig, galar cenedlaethol (unrhyw aelod o'r teulu brenhinol) neu o ganlyniad i unrhyw anghydfod llafur neu weithredu diwydiannol, gweithred neu orchymyn gan y llywodraeth, anghydfod sy'n cynnwys Prifysgol Abertawe, neu unrhyw weithred neu ddigwyddiad arall y tu hwnt i reolaeth Prifysgol Abertawe, ni fydd y Brifysgol yn atebol am unrhyw golledion uniongyrchol neu fel arall sy’n effeithio ar y graddedigion neu eu gwesteion.
- Ni chewch ailwerthu tocynnau i drydydd partïon.
- Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i wrthod mynediad neu ofyn i ddeiliad tocyn adael yr adeilad o dan amgylchiadau rhesymol. Mae enghreifftiau o amgylchiadau o'r fath yn cynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt: rhesymau iechyd a diogelwch, lle mae ymddygiad amhriodol wedi'i arddangos neu wedi digwydd (gan gynnwys bod yn feddw neu dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol), nid yw'r gwesteion yn cyrraedd erbyn yr amser a bennwyd, maent yn tarfu ar y seremoni neu ar westeion eraill neu nid yw'r unigolyn yn gymwys i fod yn bresennol. Ni chynigir unrhyw ad-daliadau yn yr amgylchiadau hyn.
Amodau Derbyn
- Cyfrifoldeb y perchennog yw'r holl eiddo personol tra bydd ar y safle.
- Efallai na chaniateir mynediad i hwyrddyfodiaid neu gellir gofyn iddynt aros am seibiant addas yn y cynulliad cyn cymryd eu seddi.
- Mae gan bob lleoliad bolisi dim smygu yn unol â'r gyfraith. Mae hyn yn cynnwys sigaréts electronig.
- Dim ond bwyd a diodydd a brynir ar y safle y gellir eu bwyta a’u hyfed; bydd eitemau gwaharddedig yn cael eu cymryd oddi wrth y perchennog neu eu gwaredu'n briodol. Defnyddir disgresiwn priodol ar gyfer y rhai sydd â gofynion meddygol a/neu anghenion arbennig; gofynnwn i chi gyfleu hyn i Dîm Graddio Prifysgol Abertawe cyn yr ymweliad er mwyn hwyluso mynediad.
- Gofynnir i westeion aros yn eu seddi (oni bai y gofynnir iddynt sefyll fel rhan o'r seremoni) drwy gydol y cynulliad er mwyn caniatáu i'r gynulleidfa gyfan gael gweld y llwyfan a'r myfyrwyr sy'n graddio yn glir. Sylwer, os na chaiff y gofyniad hwn ei fodloni, gan arwain at gwynion, bydd tîm y lleoliad sydd ar ddyletswydd yn gofyn i chi eistedd neu efallai y byddant yn eich symud i leoliad arall yn yr awditoriwm.Ni chynigir ad-daliadau na iawndal o dan unrhyw un o'r amgylchiadau hyn.
- Disgwylir i fyfyrwyr gyrraedd, cofrestru, gwisgo eu gynau academaidd a bod yn eu seddi yn yr awditoriwm o leiaf 15 munud cyn dechrau'r cynulliad graddio. Bydd drysau'r awditoriwm yn agor i westeion 30 munud cyn dechrau'r cynulliad graddio.
- Gall myfyrwyr sy'n cyrraedd yn hwyr golli eu lle yn y cynulliad graddio. Os yw myfyrwyr yn cyrraedd yn hwyr, ar ôl i’r holl fyfyrwyr yn y seremoni honno gael eu cyflwyno, ni fyddant yn gallu graddio yn eu cynulliad. Bydd y Rheolwr Graddio yn penderfynu a ellir cynnig cynulliad arall i'r myfyriwr yn lle hynny.
Dyledion Ffïoedd Dysgu
- Rhaid talu dyledion ffïoedd dysgu myfyrwyr i Brifysgol Abertawe yn llawn cyn i fyfyriwr fynd i'w gynulliadau graddio. Os ydych chi'n pryderu sut y bydd dyled ffïoedd dysgu yn effeithio ar eich presenoldeb, e-bostiwch: income.tuition@abertawe.ac.uk.
- Os nad yw unrhyw ddyled ffïoedd dysgu myfyrwyr wedi'i thalu’n llawn ymhen pedair wythnos i gynulliad graddio myfyriwr, mae gan Brifysgol Abertawe'r hawl i wrthod mynediad i’r seremoni i fyfyriwr a'i westeion.
Diogelu Data
- Dylai myfyrwyr, gwesteion a staff sy'n mynd i seremonïau graddio fod yn ymwybodol bod y cynulliadau'n cael eu hystyried yn ddigwyddiadau cyhoeddus.
- Os cyhoeddir unrhyw ddata personol (megis enwau a dyfarniadau) manylir ar hyn yn yr Hysbysiad Preifatrwydd Graddio.
- Mae recordiadau sain a delweddau gweledol o'r cynulliad ar gael i'r cyhoedd trwy weddarllediad byw, cyfryngau cymdeithasol, a gwerthu DVDs o'r cynulliad.
- Yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018, bydd y deunydd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion hyrwyddo Prifysgol Abertawe neu er budd y Brifysgol yn unig.
- Gall deunyddiau aros yn y parth cyhoeddus am gyfnod amhenodol a gellir eu defnyddio at ddibenion addysgol a/neu farchnata. Efallai y bydd angen eu golygu am resymau ansawdd neu dechnegol a byddant yn cael eu storio'n ddiogel gan y Brifysgol neu ei hasiantau.
- Bydd hawlfraint Prifysgol Abertawe yn berthnasol i’r deunydd(iau) a gellir eu defnyddio fel y maent neu ar y cyd â deunydd(iau) eraill, fel rhan o gynhyrchiad cyfansawdd.
Gwisg Academaidd
- Mae Gwisg Academaidd (h.y. gwisgo gynau academaidd) yn orfodol i fyfyrwyr yn holl gynulliadau graddio Prifysgol Abertawe.
- Penodir Ede and Ravenscroft i gyflenwi'r wisg academaidd gywir ar gyfer cynulliadau graddio'r Brifysgol. Mae gwybodaeth ychwanegol, gan gynnwys y tâl am logi neu brynu gwisg academaidd, ar gael drwy dudalennau gwe graddio'r Brifysgol. Sylwer, bydd amodau a thelerau ar wahân yn berthnasol i logi neu brynu gwisg academaidd a bydd unrhyw gontract ar gyfer llogi neu brynu gwisg academaidd yn cael ei wneud rhyngoch chi ac Ede and Ravenscroft. Felly, ni fydd y Brifysgol yn gyfrifol nac yn atebol am gyflawni unrhyw rwymedigaeth o dan y contract hwnnw.
Hygyrchedd
- Mae croeso i gŵn cymorth ond rhowch wybod i’r Brifysgol o dan ‘ofynion arbennig’ ar adeg archebu tocynnau. Mae'r perchennog yn gyfrifol am y ci tra bydd ar y safle.
- Dylid cyflwyno ceisiadau am ofynion seddi hygyrch i fyfyrwyr neu eu gwesteion, megis mynediad i gadeiriau olwyn, cyfleusterau golwg neu glyw, wrth gadarnhau eu presenoldeb fel y gellir gwneud trefniadau priodol. Os na fydd myfyriwr yn datgan unrhyw ofynion arbennig cyn y cynulliadau, ni all y Brifysgol warantu y gellir sicrhau darpariaethau arbennig ar y diwrnod.
- Os oes angen cymorth arnoch yn ystod eich ymweliad, siaradwch ag unrhyw aelod o staff y lleoliad wrth gyrraedd a fydd yn falch o helpu lle bo modd.
Plant/Babanod
- Gan fod pob cynulliad tuag 1 awr a 15 munud o hyd, rydym yn cynghori nad ydynt yn addas ar gyfer plant dan 2 flwydd oed.
- Rhaid i bob plentyn dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol a chael ei oruchwylio ganddo bob amser.
- Mae gan y rheolwyr yr hawl i ofyn i rieni/oruchwylwyr adael os yw'r plentyn maen nhw'n ei oruchwylio yn tarfu ar westeion eraill.
- Mae cyfleusterau newid/bwydo babanod ar gael.
Gall methu â chydymffurfio ag unrhyw un o’r Amodau a Thelerau uchod achosi i’r myfyriwr a’i westai(ion) golli eu lleoedd yn y seremoni raddio.
Wrth gyflwyno cais am docynnau, gofynnir i fyfyrwyr dderbyn yr Amodau a Thelerau ac ni fyddant yn gallu prynu tocynnau heb wneud hyn.