Gwelwch isod rhestr wirio i'ch helpu chi wybod popeth sydd angen i chi wneud cyn, yn ystod ac ar ôl eich cynulliad graddio.
Rhif. | Gweithgaredd | Dyddiad Cau |
Paratoi ar gyfer Graddio |
||
1 |
Edrychwch ar yr Amserlen graddio i wybod pryd byddwch chi'n graddio. |
Cyn eich cynulliad |
2 |
Archebwch eich lle yn y cynulliad graddio trwy cwblhau y broses archebu ar-lein ar ôl derbyn e-bost i ddweud fod y broses archebu ar-lein ar agor. |
21 Ebrill – 16 Mai |
3 |
Gwnewch yn siwr fod eich enw swyddogol llawn yn gywir. |
Yn ystod archebu eich lle |
4 |
Rhowch wybod i ni os ydych chi neu eich gwesteion gydag unrhyw ofynion arbennig. |
Yn ystod archebu eich lle |
5 |
Talwch unrhyw ddyledion i'r Brifysgol. |
8 Tachwedd |
6 |
Archebwch eich gwisg academaidd o Ede and Ravenscroft. |
9 Tachwedd |
Ar eich Dydd Graddio | ||
7 |
Cyrraedd Yr LC, Abertawe |
O leiaf 1½ awr cyn dechrau eich cynulliad |
8 |
Cofrestru, gwisg a cael tynnu eich llun swyddogol yn Yr LC |
Cyrhaeddwch yn gynnar i osgoi aros |
9 | Rhowch Yr Arena Abertawe a chymryd eich sedd | Bydd drysau yn agor 45 munud cyn amser dechrau'r cynulliad |
10 | Dychwelwch eich gŵn i'r LC (mae man dychwelyd gynau ychwanegol wedi'i lleoli ar lawr gwaelod Arena Abertawe os nad ydych wedi trefnu i ffotograffau proffesiynol gael eu tynnu yn yr LC ar ôl y seremoni) | Ar ôl eich cynulliad |
11 |
Ar ôl eich seremoni, archebwch eich llun ar y llwyfan yn yr LC. |
Unrhyw bryd ar ôl eich cynulliad (saib tua 15 munud ar ôl archebu) |
Ar ôl Graddio | ||
12 | Llongyfarchiadau, rydych chi nawr yn aelod awtomatig o Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr. | |
13 | Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe dal yma i'ch helpu chi gyda cham nesaf eich gyrfa. | |
14 | Os oes angen tystysgrif newydd neu drawsgrifiad academaidd arall arnoch cysylltwch â myunihub@abertawe.ac.uk | |
15 | Gadewch i ni wybod unrhyw adborth sydd gennych am eich Dydd Graddio |