Dosbarthiad brithyllod yr afon a galacsidiaid brodorol

Jessica Minett

Mae Jess yn gweithio gyda SAERI i astudio brithyllod yr afon yn yr Ynysoedd Falkland. Bydd ei phrosiect yn defnyddio cyfuniad o dechnegau, gan gynnwys eDNA, tagio acwstig a dadansoddi isotopau sefydlog i ymchwilio i ddosbarthiad brithyllod yr afon a galacsidiaid brodorol, asesu strwythur poblogaeth brithyllod yr afon a'u heffeithiau ar galacsidiaid brodorol. Amcan arall ei PhD yw canfod sut mae brithyllod yr afon wedi lledaenu o gwmpas yr Ynysoedd Falkland. Gall unrhyw ganfyddiadau gynorthwyo wrth warchod llochesau ar gyfer ffawna brodorol nad yw brithyllod yr afon wedi effeithio arnynt eto. Caiff ei hariannu gan Fortuna Ltd a Phrifysgol Abertawe.

Cysylltu â Jessica

Goruchwylwyr: Yr Athro Carlos Garcia de Leanizyr Athro Sonia Consuegra, Paul Brickle, Glenn Crossin ac Alexander Arkhipkin