I ddathlu 10 mlynedd o ddatblygu arweinwyr eithriadol, dyma Ceri D. Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi (REIS) yn rhannu ei feddyliau am y rhaglen y bu ef yn cynorthwyo i’w throsglwyddo i Gymru o Ogledd Orllewin Lloegr.
"Ble’r aeth yr holl flynyddoedd? Wrth i ni wibio drwy 2019, mae’n anodd credu ein bod yn dathlu 10 mlynedd o LEAD Cymru / Arweinyddiaeth ION. Mae’n teimlo fel ddoe pan gafodd ein tîm ym Mhrifysgol Abertawe y weledigaeth i fewnforio’r rhaglen wych hon i Gymru, o Brifysgol Caerhirfryn. Yn ystod y cyfnod hwnnw, rwy’n falch o ddweud ein bod wedi gweithio gyda dros 1300 o berchnogion busnesau, cyfarwyddwyr a rheolwyr mewn bron i 1000 o fusnesau, pob un ohonyn nhw â straeon gwych am y ffordd y mae’r rhaglen wedi effeithio nid yn unig arnyn nhw ond ar eu busnesau hefyd.
"Mae’r rhaglen fel y mae heddiw yn wahanol iawn i'r rhaglen a fewnforiwyd gennym yn 2008. Yr oedd angen i ni sicrhau bod y rhaglen yn addas i’r pwrpas ar gyfer economi Cymru a marchnad sy’n drwm dan ddylanwad Busnesau Bach a Chanolig, gyda chyfran sylweddol ohonyn nhw yn ficrofusnesau. Yn wir, un o lwyddiannau mawr y rhaglen yng Nghymru fu’r ffordd yr ydyn ni wedi galluogi a grymuso microfusnesau i dyfu a ffynnu. Rydyn ni wedi datblygu ac addasu’r rhaglen mewn modd strategol dros y degawd - enghraifft dda o hyn oedd ein rhaglenni penodol i’r sector a ddatblygwyd gennym ar gyfer sectorau economaidd sy’n flaenoriaeth yng Nghymru. Yn yr un modd, rydym yn falch o’r carfannau arweinyddiaeth benywaidd yr ydyn ni wedi’u datblygu a’u cyflwyno ar y cyd â Chwarae Teg.
"Mae’r rhaglen wedi esblygu’n barhaus. Yn 2015, oherwydd newid o ran cyllido, fe aethom ati nid yn unig i ail-frandio Arweinyddiaeth ION ond hefyd, am y tro cyntaf mewn 5 mlynedd, oherwydd ail-lunio ein model cyllido, gofynnwyd i gyfranogwyr am gyfraniad ariannol i gwrdd â chostau darparu’r rhaglen. Roedd hyn, yn amlwg, yn newid sylweddol ar y pryd, ond diolch byth, mae’r gwerth a ychwanegwyd gan y rhaglen i’w weld yn amlwg. Rydyn ni’n mabwysiadu athroniaeth o welliant parhaus o ran datblygu’r rhaglen, felly yn 2019 gwelwyd ION yn cydweithio ag ysgol fusnes a dylunio o Ddenmarc Kaospilot i ddod â’u rhaglen sydd wedi cael cryn ganmoliaeth, Arwain Dylunio Cynnyrch a Gwasanaeth, i Gymru am y tro cyntaf. Rydw i wrth fy modd o weld bod ION bob amser yn gwneud ymdrech i arallgyfeirio ac ychwanegu gwerth at fusnesau Cymru.
"Rwy’n hynod falch o ddweud fy mod i wedi chwarae rhan yn LEAD Cymru ac Arweinyddiaeth ION ar bob lefel. O roi cymorth i’r cyfranogwyr ac aelodau’r tîm yng nghamau cynharaf y rhaglen, bod yn Gyfarwyddwr Gweithredol y Rhaglen ac yna’n Gadeirydd presennol y Grŵp Llywio, rydw i wedi gweld a chlywed yn uniongyrchol gyfranogwyr o Ogledd a De Cymru’n rhannu eu straeon ynghylch sut y mae’r rhaglen wedi effeithio arnyn nhw’n broffesiynol ac yn bersonol.
"Mae gennym werth 10 mlynedd o straeon. Dywedodd Shaun Welsh o Trojan Construction Management “Galluogodd y cwrs i mi gamu’n ôl ac edrych ar fy musnes o'r tu allan. Ers dechrau'r cwrs, mae ein cwmni wedi profi twf o ran trosiant ac elw”. Dywedodd cyfranogwr diweddar o'r garfan menywod yn unig, mewn partneriaeth â Chwarae Teg; “mae dau air yn crisialu’r rhaglen – cwbl angenrheidiol”. Allwn i ddim fod wedi dweud yn well fy hun!
"Pe byddwn yn cynnwys pob stori o lwyddiant yn y blog hwn, fe fyddech yn darllen am ddyddiau ond mae gan dîm ION nifer o ffilmiau sy’n arddangos effaith y rhaglenni’n berffaith. Mae cyfranogwyr o sefydliadau fel Wolfestone, Miles Hire, Pharma Group ac Abbey Glass, i gyd yn rhannu eu straeon, dim ond ychydig o'r llu o dystlythyrau gan gleientiaid sy’n arddangos yr amrediad o sefydliadau ac unigolion sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen.
"O Ynys Môn i Gaerffili, rydyn ni wedi cynorthwyo sefydliadau mewn 15 o siroedd ledled Cymru. O filfeddygfeydd yn Noc Penfro i raglennwyr cyfrifiaduron ym Mangor, mae ION wedi gweithio gyda sefydliadau ar draws amrywiaeth eang o sectorau diwydiant.
"Mae gennym ystadegau i gadarnhau'r effaith:
- 2424 o swyddi newydd wedi eu creu diolch i LEAD Cymru (2010-2015)
- £52m wedi’i ychwanegu at economi Cymru (2010-2015)
- 96% o gyfranogwyr a holwyd yn dweud i’r rhaglen gael effaith sylweddol ar y ffordd y maen nhw’n gweithio. (2010-2015)
- 38% o gyfranogwyr ar ein rhaglen Arwain Twf wedi gweld cynnydd mewn trosiant
- 46% o gyfranogwyr ar ein rhaglen Arwain Twf wedi cynyddu nifer y gweithwyr yn eu sefydliad
"Hoffwn gloi drwy ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o brofiad ION dros y 10 mlynedd diwethaf. Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi gweithio i LEAD Cymru / ION yn Abertawe a Bangor. Diolch i bawb a fynychodd neu a roddodd gyflwyniad yn un o’n digwyddiadau. Diolch arbennig i’n cydweithwyr ym Mhrifysgol Bangor sydd wedi sicrhau bod effaith y rhaglenni gwych hyn yn cael ei gweld ledled Cymru. Ac mae’r diolch olaf yn mynd i’n cyfranogwyr. Pob un o’r 1300+ ohonyn nhw. Diolch i chi am eich hymroddiad i’r rhaglen ac am gyfrannu mor gadarnhaol at yr hud. Diolch i chi am ganiatáu i dîm ION fod yn rhan o’ch taith arweinyddiaeth. Rydyn ni’n hynod falch o fod wedi gweithio gyda phob un ohonoch chi.
"Edrychaf ymlaen at glywed mwy o straeon gwych yn y digwyddiad ym mis Tachwedd, a hei lwc y byddwn yn datblygu mwy o arweinyddion eithriadol dros y degawd nesaf."
I gael gwybod mwy am Arweinyddiaeth ION ac i weld rhai o'r cyrsiau gwych sydd ar gael, ewch i www.ionleadership.co.uk