Mae Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe ymhlith y 3 Ysgol Feddygol orau yn y DU ac mae'n ymrwymedig i sicrhau y defnyddir ymchwil, arloesedd ac arbenigedd yr Ysgol i atal salwch, datblygu triniaethau gwell a bod ar flaen technolegau newydd a ellir eu defnyddio i wella gofal y GIG. Mae Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe yn arwain prosiect technoleg a fydd yn helpu cyflymu arloesedd iechyd yng Nghymru ac anogir busnesau i fod yn rhan ohono.
Mae'r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd (HTC), sydd bellach wedi'i lleoli yn yr ardal labordai newydd ar Gampws Singleton, a'i thîm o staff ymroddedig yn gweithio ar y cyd â busnesau a'r GIG i ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau gofal iechyd newydd, arloesol i greu gwerth economaidd parhaus yng Nghymru.
Mae'r prosiect Canolfan Technoleg Gofal Iechyd yn dwyn ynghyd y GIG, busnesau ac ymchwilwyr i adeiladu ar gryfderau ymchwil Abertawe ym meysydd Biosynwyryddion a Dyfeisiau, Biowybodeg a Bioddadansoddeg. Bydd y gwaith sydd ynghlwm â chyfleoedd sy'n gofyn datblygiad technoleg yn cael ei wneud mewn partneriaeth â'r sector preifat, sefydliadau addysg uwch a rhanddeiliaid allweddol eraill.
Dywedodd arweinydd y prosiect Canolfan Technoleg Gofal Iechyd, Dr Naomi Joyce:
"Mae'r prosiect yn awyddus i weithio gyda diwydiant ar brosiectau arloesi ar y cyd - gallwn gynnig hawl i ddefnyddio cyfleusterau offer o'r radd flaenaf a thîm cyflawni mewnol yn cynnwys technolegwyr arloesedd sydd â chefndiroedd yn y byd academaidd yn ogystal â'r diwydiant. Gall y prosiect hefyd gyfrannu at gostau'r prosiectau."
Dywedodd yr Athro Keith Lloyd, Pennaeth yr Ysgol Feddygol:
"Mae ein Canolfan Technoleg Gofal Iechyd yn darparu cyfleusterau ac offer o'r radd flaenaf yn ogystal ag arbenigedd academaidd i gefnogi prosiectau ar y cyd i hybu ymchwil ac arloesedd i wella gofal iechyd yng Nghymru a gweddill y byd."
Mae'r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd yn rhan o'r rhaglen Cyflymu £24 milliwn. Cefnogir Cyflymu, a fydd yn rhedeg am 3 blynedd, gan gyllid Llywodraeth Cymru ac Ewrop, a bydd yn cyflymu arloesedd mewn technoleg iechyd yng Nghymru. Arweinir y rhaglen gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac mae'n tynnu ar arbenigedd a gallu Prifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau gofal iechyd newydd, arloesol, a fydd yn helpu i roi hwb i'r economi ac, o bosibl, creu cannoedd o swyddi newydd o ansawdd dda.
Canolbwyntio ar Gynaliadwyedd
Mae labordai yn defnyddio ynni/deunyddiau naturiol yn eang, ond eto mae'n parhau i fod yn un o'r ardaloedd mwyaf heriol i gyflawni cynaliadwyedd. Amcangyfrifir bod adeiladau ymchwilio labordai yn defnyddio 5-10 gwaith mwy o ynni fesul metr sgwâr na meysydd academaidd nodweddiadol.
Ar hyn o bryd mae'r tîm Canolfan Technoleg Gofal Iechyd yn gweithio i gefnogi busnesau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru ac fel rhan o'r ymdrech hwn maent yn gweithio tuag at Ddyfarniad Efydd LEAF (The Laboratory Efficiency Assessment Framework).
Mae LEAF yn galluogi timoedd i fonitro a gwella cynaliadwyedd labordai drwy lyfryn gwaith electronig sydd â chyfuniad o feini prawf amgylcheddol ac arferion da.
Mae'r dyfarniad yn canolbwyntio ar feysydd megis caffael a gwastraff, offer, awyriad, samplau a chemegion, pobl, ac ansawdd ymchwil.
Un nodwedd allweddol iddo yw ei fod yn caniatáu timau i fesur arbedion, mewn punnoedd a charbon. Cynhyrchir y data hwn i hwyluso gwelliannau cyffredinol eraill - i ddefnyddwyr gael eu rhannu gyda'u cyd-weithwyr, i reolwyr cynaliadwyedd eu rhannu ag uwch reolwyr, ac i sector cynaliadwyedd y labordy i osod man cychwyn iddo ef ei hun.
Ychwanegodd Dr Joyce:
"Mae'r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd yn gweithio'n frwd i herio'r arfer a gwneud gwelliannau lle bynnag bo hynny'n bosibl. I gyfrannu at uchelgeisiau'r Brifysgol a'r byd i greu dyfodol cynaliadwy, rydym yn gweithio tuag at gyflawni Dyfarniad Efydd LEAF.
"Rydym yn gweithio'n weithredol i leihau ein defnydd o ynni a gwneud newidiadau cadarnhaol i ddod yn amgylchedd labordy mwy cynaliadwy ac eco-gyfeillgar.
"Y nod yw tystio effaith cynaliadwyedd y labordy a dangos bod ymdrechion lleol yn gwneud gwahaniaeth."
Dywedodd yr Athro Keith Lloyd, Pennaeth yr Ysgol Feddygol:
"Mae Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe yn ymrwymedig i wella cynaliadwyedd ar draws ei holl weithredoedd.
Os hoffech ddysgu mwy am y Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd a sut gallai eich busnes weithio gyda’r prosiect neu gael syniad prosiect ymchwil ar y cyd yr hoffech ei ddatblygu gyda ni,