Mae cefnforoedd yn amgylcheddau cymhleth iawn a'r nod sylfaenol i'r sector ynni morol yw dylunio'r ddyfais fwyaf cost-effeithiol o ddal ynni ar gyfer yr amgylcheddau hyn: un na fydd angen llawer o waith cynnal a chadw arni i berfformio'n dda. Nid oes gan un sefydliad yr atebion i'r holl gwestiynau y mae angen eu hateb er mwyn cyflawni'r nod hwn, felly mae cydweithio'n hanfodol i lwyddiant parhaus y diwydiant hwn. Yma rydyn ni'n dangos sut mae'r Brifysgol yn helpu'r diwydiant i gyflawni ei nodau

Mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn cydweithio â'r diwydiant ynni morol ers dau ddegawd a gwelwyd mai'r dull cydweithredol hwn sydd orau ar gyfer y cwestiynau y bydd angen eu hateb ddwy neu dair blynedd yn ddiweddarach ar y llwybr datblygu.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae ymchwilwyr ynni morol Abertawe wedi cael sawl llwyddiant a fyddai wedi bod yn amhosib heb gydweithio â phartneriaid diwydiannol:

Gan adeiladu ar y llwyddiannau ymchwil diweddar hyn, mae ymchwilwyr yn gweithio ar sawl prosiect arall sy'n cyfrannu at ymdrin â heriau i'r diwydiant ynni morol ehangach, gan gynnwys gwaith y Brifysgol ar wahanu cynnwrf tonnau a rhestru adnoddau tonnau. Mae arolygon o'r awyr gan ddronau wedi cael eu cynnal at ddibenion amrediadau llanw a llifoedd llanw. Ar hyn o bryd, mae'r tîm yn datblygu systemau newydd ar gyfer defnyddio synwyryddion a chreu synwyryddion newydd, ynghyd â chofnodi data mewn modd rhad.

Haen bwysig arall o'r ymchwil yw'r ffordd y mae dyfeisiau ynni cefnforol yn rhyngweithio â'r amgylchedd, maes astudio ar gyfer ein cydweithwyr ym maes bioleg y môr drwy'r prosiect SEACAMS2. Prif amcan SEACAMS2 yw helpu i ddatblygu cyfleoedd o ran carbon isel, ynni a'r amgylchedd yn rhanbarthau cydgyfeirio Cymru. Dyma fuddsoddiad yn y cyfleoedd sy'n deillio o'r economi forol ac ynni adnewyddadwy morol.

Mae'n hanfodol cyfathrebu'n barhaus â phartneriaid diwydiannol i sicrhau bod prosiectau'n canolbwyntio ar anghenion y sector ynni morol o hyd.

Er mwyn trafod cydweithio â Phrifysgol Abertawe ar ymchwil ac arloesi yn y sector ynni morol, a wnewch chi e-bostio ein tîm ymgysylltu â busnes drwy.

Ceir rhagor o wybodaeth am y sector ynni morol yng Nghymru drwy wylio ein gweminar ddiweddar ar yr Economi Las.

Rhannu'r stori