Cafodd gweithlu’r GIG yng Nghymru hwb mawr ym mis Ebrill pan gafodd myfyrwyr meddygaeth yn eu blwyddyn olaf y cyfle i ymuno â’r frwydr yn erbyn Covid-19 ar y rheng flaen.
Ymhlith y rheini a gamodd i fyny er mwyn ymgymryd â gwaith yn yr ysbytai oedd Alex Ruddy.
Roedd e’n rhan o garfan o fyfyrwyr o raglen Meddygaeth i Raddedigion Prifysgol Abertawe a gafodd eu sefydlu fel meddygon yn gynnar gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol ac a aeth ymlaen i gymryd rhan yn seremoni graddio rithwir gyntaf Prifysgol Abertawe.
Er gwaethaf y pwysau a’r risgiau o fod yn feddyg ar y rheng flaen yn gynharach na’r disgwyl, ni wnaeth Alex oedi wrth ymgymryd â’r cyfle i ddechrau ar y wardiau.
“Roedd y posibilrwydd o ddechrau fy ngyrfa fel meddyg ychydig o flynyddoedd yn gynnar yn fy ngwneud i’n llawn ymdeimlad o ddyletswydd nerfus,” meddai.“Wrth gwrs, roedden ni i gyd yn poeni am y pwysau a oedd yn wynebu’r GIG.Efallai’r peth mwyaf gofidus i ni yw’r pwysau sydd ar staff bellach i ddarparu gofal effeithiol ar gyfer cleifion wrth roi eu hunain, a’r bobl maen nhw’n eu caru, mewn perygl go-iawn bob dydd.”
Fodd bynnag, serch dechrau yn y proffesiwn yn ystod pandemig byd-eang, dywedodd Alex mai dyna’r peth gorau i’w wneud yn ei farn ef.
“Rydyn ni wedi hyfforddi am y foment hon am y pedair blynedd diwethaf - ac wedi bod yn gweithio ar ei gyfer ers llawer cyn hynny- ac uwchben yr ymdeimlad o bryder neu ofid personol, rydw i’n meddwl ein bod ni i gyd yn awyddus i fynd i’r afael â’r argyfwng hwn a helpu ein GIG yn ystod y cyfnod hwn pan fo gwir angen.”
Roedd cymryd rhan yn fater o wirfodd, a rhoddwyd y cyfle dim ond i fyfyrwyr a oedd wedi bodloni anghenion eu rhaglenni astudio, wedi llwyddo yn yr asesiadau crynodol perthnasol a rhannau gofynnol y rhaglen.
Daeth y recriwtiaid newydd yn feddygon Sylfaenol blwyddyn gyntaf (FY1) dros dro, gan ddechrau Rhaglen Sylfaenol y DU sy’n para am ddwy flynedd, sy’n bont rhwng yr ysgol feddygaeth a hyfforddi ar gyfer ymarfer arbenigol/cyffredinol, ar unwaith.
Ychwanegodd Alex, a astudiodd Biocemeg Feddygol yn Abertawe’n wreiddiol cyn dechrau ei hyfforddiant meddygol:“Dyma ein galwedigaeth ni, ac er ei bod wedi cyrraedd ar adeg annisgwyl ac anrhagweladwy, fyddwn ni ddim yn ei hanwybyddu.”