Ein Gweledigaeth

Rydym, a byddwn yn parhau'n Brifysgol egwyddorol, bwrpasol a gwydn sy'n cydbwyso addysgu rhagorol ag ymchwil ac arloesi sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang mewn amgylchedd agored sy'n galluogi ein myfyrwyr a'n cydweithwyr i ragori. Rydym yn uchel ein parch ledled y byd fel partner y gellir ymddiried ynddo, ond rydym hefyd yn hollol ymrwymedig i'n rhanbarth ac yn falch o fod yn Brifysgol ar gyfer Cymru.

Ein Hymagwedd Strategol

Rydym yn falch o gyflwyno ein huchelgeisiau ar gyfer ein Prifysgol.

Yn ein hanfod, rydym yn sefydliad egwyddorol, pwrpasol a gwydn sy'n nodweddiadol am werthoedd, diwylliant ac ymddygiadau arbennig sydd wrth wraidd ac yn tanategu pum piler allweddol ein Prifysgol:

Ein Cenhadaeth Ddinesig: rydym yn falch o berthyn i Ddinas Abertawe a Dinas-ranbarth Bae Abertawe ehangach ac rydym yn dathlu'r dreftadaeth honno. Gyda champysau yn ardaloedd tri awdurdod lleol, rydym yn cydnabod mai prifysgol y rhanbarth yw ein Prifysgol ni.

Profiad ein Myfyrwyr: ein myfyrwyr yw calon ein Prifysgol a gallwn ymfalchïo yn ein henw cryf cyson am ansawdd ein profiad i fyfyrwyr, cryfder ein gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr a'n hymrwymiad i iechyd meddwl a lles myfyrwyr.

Ein Dysgu ac Addysgu: mae rhannu gwybodaeth er mwyn meithrin sgiliau meddwl yn annibynnol ac yn feirniadol yn elfen sylfaenol o'n diben. Mae'n galluogi ein myfyrwyr i fod yn gadarn yn wyneb heriau byd-eang ac i addasu i fyd gwaith newidiol. Rydym yn dathlu ein treftadaeth Gymraeg ac yn falch o fod yn rhan o genedl ddwyieithog.

Ein Hymchwil: mae ein hymchwil yn newid bywydau, yn ysgogi arloesi a thwf rhanbarthol ac mae'n cydweddu â Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Mae'n effeithio ar ein diwylliant a'n cymdeithas, yn ogystal ag ar ein hiechyd a'n lles, ein heconomi a'n planed.

Ein Mentergarwch: rydym yn brifysgol hynod gydweithredol ac entrepreneuraidd. Cawsom ein sefydlu gan ddiwydiant, ar gyfer diwydiant, ac rydym yn parhau'n ffyddlon i uchelgeisiau ein sefydlwyr, drwy weithio gyda phartneriaid diwydiannol, masnachol ac yn y sector cyhoeddus er budd ein rhanbarth a'n cenedl.

Nodir pob un o'r meysydd hyn gan ein hymrwymiad i wneud gwahaniaeth, gweithredu â chyfrifoldeb cymdeithasol ac amgylcheddol, ymdrechu i gyflawni rhagoriaeth a chynnal meddylfryd byd-eang sydd yn ein galluogi i fod yn Brifysgol gymunedol â chyrhaeddiad ac enw rhyngwladol.

Ein Strategaethau