Bu Prifysgol Abertawe'n dathlu ei Chanmlwyddiant ar 19 Gorffennaf 2020. Yn ogystal â chynnig cyfle unigryw i ddathlu cyflawniadau a thaith y Brifysgol dros y 100 mlynedd diwethaf, mae'r achlysur unigryw hwn yn hanes y Brifysgol hefyd yn adeg i ganolbwyntio ar y dyfodol disglair sydd o'n blaenau.

Rydym yn dathlu llwyddiant academaidd a chyflawniadau balch aelodau staff presennol a chyn-aelodau staff y Brifysgol a'n myfyrwyr a'n cyn-fyfyrwyr. Ymunwch â ni, wrth i ni gael ein hysbrydoli gan ein gorffennol ysblennydd a byddwn yn paratoi'r ffordd i'n dyfodol.

Ein Abertawe

Mae ein Habertawe, fel rydyn ni’n ei hadnabod hi, yn golygu pethau gwahanol i bobl wahanol. Hoffen ni i aelodau o staff, myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr a phartneriaid gymryd rhan yn ein dathliadau’r Canmlwyddiant a rhoi gwybod i ni beth mae Abertawe yn ei olygu i chi. Edrychwch ar ein mentrau isod i ddysgu sut gallwch chi gymryd rhan a rhannu eich atgofion am Brifysgol Abertawe a’ch gweledigaethau ar gyfer ein hail ganrif.

HANES A THREFTADAETH

Dysgwch fwy am ein rhaglenni diwylliannol a chelfyddydol trwy Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe.

CEFNOGI ABERTAWE

Gwnaethpwyd pob ymdrech i gysylltu â deiliaid yr hawliau er mwyn derbyn caniatâd i ddefnyddio deunydd â hawlfraint yn ffilm amserlen y Canmlwyddiant.  Os ydyn ni wedi defnyddio unrhyw ddeunyddiau yr ydych chi’n credu y gallech chi fod yn berchen ar yr hawliau iddynt e-bostiwch archives@abertawe.ac.uk