Ym 1920, agorodd Coleg Prifysgol Abertawe ei ddrysau i 89 o fyfyrwyr – 81 yn ddynion ac 8 yn fenywod. Yn y 100 mlynedd ers hynny, mae Coleg y Brifysgol – neu Brifysgol Abertawe fel rydym yn ei hadnabod bellach – wedi gweld newidiadau a datblygiad sylweddol. Cofnodir tystiolaeth o’r newidiadau hynny yng nghasgliadau archif y Brifysgol, sy’n cael eu gwarchod a’u rheoli yn Archifau Richard Burton Prifysgol Abertawe.

Lluniau o’r awyr o Goleg Prifysgol Abertawe, Singleton, c. 1940au. Drwy garedigrwydd Archifau Richard Burton (cyfeirnod: 1999/11)
Myfyrwyr Coleg Prifysgol Abertawe mewn gwisg academaidd, c. 1920au. Drwy garedigrwydd Archifau Richard Burton (UNI/SU/PC/5/5)

Lluniau o’r awyr o Goleg Prifysgol Abertawe, Singleton, c. 1940au. Drwy garedigrwydd Archifau Richard Burton (cyfeirnod: 1999/11)

Myfyrwyr Coleg Prifysgol Abertawe mewn gwisg academaidd, c. 1920au. Drwy garedigrwydd Archifau Richard Burton (UNI/SU/PC/5/5)

Mae archifau’r Brifysgol yn drysorfa wybodaeth, gan ffurfio cof corfforaethol sy’n cofnodi nodau, amcanion a chyflawniadau’r Brifysgol. Maent hefyd yn cynnig cipolwg unigryw ar y bobl a’r digwyddiadau sydd wedi helpu i greu’r Brifysgol rydym yn ei hadnabod heddiw.

Mae’r casgliadau’n cynnwys llyfrau cofnodion swyddogol a chofnodion adrannol, ffotograffau, papurau newydd Undeb y Myfyrwyr, cynlluniau pensaernïol, gohebiaeth, toriadau o’r wasg a phapurau personol cyn-aelodau staff a chyn-fyfyrwyr; maent yn ymestyn dros 300 o fetrau ac yn cwmpasu nifer o adrannau academaidd, gwasanaethau proffesiynol a chymuned y myfyrwyr. Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys amrywiaeth o fformatau, megis papur, casetiau sain, ffilm, ffotograffau, tecstilau a deunydd digidol gwreiddiol. Mae casgliadau’r archifau’n unigryw ac nid ydynt i’w cael unrhyw le arall yn y byd.

Archive stack

Ystafell ddiogel yr Archifau, 2019. Drwy garedigrwydd Archifau Richard Burton

Mae casgliadau archif y Brifysgol yn tyfu’n aruthrol a thrwy’r amser; mae dros 50 o gasgliadau o ddeunydd sy’n ymwneud â’r Brifysgol wedi cael eu cyflwyno i’r Archifau yn ystod y 3 blynedd diwethaf, gan gyfoethogi’r casgliadau. Mae’r catalog ar-lein, sy’n disgrifio casgliadau’r Brifysgol, ar gael yma ac ychwanegir deunydd sydd newydd gael ei gatalogio ato drwy’r amser.

Mae’r prosiect hanes llafar Lleisiau Prifysgol Abertawe, 1920-2020 yn rhan o gasgliadau archif y Brifysgol. Mae’r prosiect, a sefydlwyd gan Dr Sam Blaxland yn 2016, yn ymdrechu i gofnodi atgofion a phrofiadau cyn-aelodau staff a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe. Hyd yn hyn, mae Sam wedi recordio dros 107 o oriau, a ychwanegwyd at yr Archifau i’w cadw a sicrhau y byddant ar gael at ddibenion addysgu ac ymchwil yn y dyfodol.

Mae rhagor o wybodaeth am brosiect catalogio’r Brifysgol ar gael ar blog Archifau Richard Burton.

Pobl

Mae gan Archifau Richard Burton dîm ymroddedig o staff proffesiynol i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar y casgliadau.

Ymunodd Emily Hewitt â’r Archifau yn 2016 i gatalogio a darparu mynediad at gasgliadau archif y Brifysgol. Mae’n cynnig cyngor ar gasgliadau’r Brifysgol a hanes llafar ac mae hi’n cefnogi ymchwil sy’n ymwneud â’r canmlwyddiant a hanes y Brifysgol.

Archifydd Cynorthwyol, Emily Hewitt, 2019. Trwy gwrteisi Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru.

Archifydd Cynorthwyol, Emily Hewitt, 2019. Trwy gwrteisi Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru

Ynglŷn ag Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe

Mae Archifau Richard Burton, a leolir yn Llyfrgell Prifysgol Abertawe, hefyd yn gartref i Gasgliad Richard Burton; Casgliad Maes Glo De Cymru; Papurau Raymond Williams; a chasgliadau pwysig eraill am yr ardal leol. Mae’r casgliadau hyn yn darparu cipolwg tra diddorol ar hanes diwydiannol, diwylliannol, cymdeithasol, gwleidyddol ac addysgol de Cymru. Mae gan yr Archifau dros ddau gilomedr o silffoedd i storio casgliadau archif y Brifysgol mewn amodau amgylcheddol caeth, gan sicrhau eu cadwraeth hirdymor. Mae ystafell ddarllen ddynodedig ar gael i ymchwilwyr ymgynghori â’r casgliadau.

Cadwraeth casgliadau archif Prifysgol Abertawe a sicrhau eu bod yn hygyrch ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol – dyna genhadaeth Archifau Richard Burton. Maent hefyd yn darparu cymorth ar gyfer yr ymchwil o safon fyd-eang a wneir yn y Brifysgol, gan gryfhau cysylltiadau rhwng y Brifysgol a’r gymuned leol. Mae rhagor o fanylion ar gael yma.

Cysylltu

E-bost: archives@abertawe.ac.uk
Ffôn: 01792 295021
Twitter: @SwanUniArchives