Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ymrwymedig i wella ein Hystâd a chefnogi profiad myfyrwyr y Brifysgol, dysgu ac addysgu, uchelgeisiau ymchwil ac arloesi, yn ogystal ag amcanion cynaliadwyedd.

Mae'r mentrau presennol i ddatblygu'r campysau'n cynnwys:

  • Ailddatblygu mannau cymdeithasol ac academaidd i gyfrannu at gymuned ffyniannus o fyfyrwyr
  • Buddsoddi mewn chwaraeon fel y gallwn arwain y ffordd o ran chwaraeon addysg uwch, iechyd a lles.
  • Atgyfnerthu ein mannau awyr agored arobryn.
  • Diogelu ein hanes a'n treftadaeth – mae llawer o'r adeiladau ar Gampws Parc Singleton yn rhestredig, gan gynnwys Tŷ Fulton, Llyfrgell 1937, Adeilad Wallace ac Abaty Singleton.
  • Gwaith adnewyddu parhaus i sicrhau y gall pawb fwynhau ein campysau, boed hwy’n fyfyrwyr, yn aelodau staff neu'n ymwelwyr.

Archwiliwch rai o'n datblygiadau presennol allweddol:

Hanes ein Hystad

Ers i ni gael ein sefydlu ym 1920, mae ein hystad wedi cael ei datblygu a'i hehangu sawl gwaith, gan gynnwys agor Campws y Bae yn 2016.

Rhagor o wybodaeth am hanes ein hystad: