Datgarboneiddio ein hystad
Yn 2022, gwnaethom ddatblygu cynllun gweithredu datgarboneiddio mewn partneriaeth â'r Ymddiriedolaeth Garbon gan ein hymrwymo ni i fod yn sero net (ar gyfer allyriadau Cwmpas 1 a 2) erbyn 2035.
Mae'r cynllun yn nodi cyfres o ymyriadau hanfodol ar draws ein hystad dros gyfnod o 12 mis, gan ganolbwyntio ar leihau allyriadau, wrth wella perfformiad a gwydnwch ein hadeiladau.
Mentrau Presennol
Mae arian gan Lywodraeth Cymru'n cefnogi'r gwaith o gyflawni'r cynllun gweithredu datgarboneiddio drwy raglen o brosiectau blaenoriaethu lleihau carbon.
Datgarboneiddio ein Canolfan Ynni a'n rhwydwaith gwresogi ardal
Rydym yn trawsnewid ein canolfan ynni bresennol a bwerir gan nwy i gyflwyno pympiau gwres o’r aer ar raddfa fawr a thanciau storio thermol i ddarparu gwres adnewyddadwy mwy effeithlon ar draws y campws. Mae'r prosiect hefyd yn cynnwys adnewyddu amlen yr adeilad ac amnewid y pibau er mwyn gwella perfformiad a dibynadwyedd thermol.
Bydd hyn yn creu’r rhwydwaith gwres ardal cyntaf ar raddfa fawr yng Nghymru sy'n ddi-danwydd ac yn cael ei wres drwy bympiau gwres.
Gwelliannau i'r Campws
Bydd y prosiect yn trawsnewid prif adeiladau'n sylweddol, gan gynnwys adeilad Margam, Tŷ'r Undeb ac adeilad Faraday, gyda diweddariadau i'r inswleiddio, y ffenestri, y gwresogi a'r awyru, i leihau allyriadau carbon a mwyafu cadw gwres a chysylltu gwresogi â'r rhwydwaith gwresogi ardal.
Goleuadau LED
Mae goleuadau LED clyfar ac ynni effeithlon yn cael eu cyflwyno ar draws ein campysau i leihau allyriadau carbon a gwella dibynadwyedd, effeithlonrwydd a chysur ein hamgylcheddau.