Drwy gydol ein hanes, mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn falch o gyfuno ymchwil weledigaethol, syniadaeth arloesol a gweithredu cymunedol i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu ein cymdeithas, yn lleol ac yn fyd-eang.

Gan edrych yn ôl dros y ganrif ddiwethaf, mae ein staff, ein myfyrwyr a’n partneriaid wedi dangos cadernid diwyro, gan alluogi’r Brifysgol i addasu i heriau, anawsterau hirfaith a’u goresgyn i fod yn gryfach.

Mae modd gweld tebygolrwydd clir rhwng digwyddiadau allweddol yn hanes ein Prifysgol a’n gweithredoedd heddiw wrth i ni barhau i weithio gyda’n gilydd i wella bywydau.

Ymchwil weledigaethol ers 100 mlynedd

Drwy gydol hanes ein Prifysgol, rydym wedi ymrwymo i ymchwil weledigaethol sy’n mynd i’r afael â heriau mawr y dydd, o amddiffyn y genedl i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

Pryd hynny: Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd Prifysgol Abertawe’n gartref i’r Adran Ymchwil Ffrwydradau a symudwyd yma o Lundain. 

Dysgwch ragor am rôl allweddol Prifysgol Abertawe yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac yn y cyfnod wedi’r Rhyfel.

Yr Adran Ymchwil a Datblygu Ffrwydradau, Arfdy Woolwich, c. 1940au. Llun: A. Colquhoun. Drwy garedigrwydd Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe (2017/6)

Yr Adran Ymchwil a Datblygu Ffrwydradau, Arfdy Woolwich, c. 1940au. Llun: A. Colquhoun. Drwy garedigrwydd Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe (2017/6)

Nawr: Heddiw mae ein hymchwilwyr a’u cydweithredwyr yn cynhyrchu ymchwil hanfodol yn y frwydr yn erbyn COVID-19, o leihau’r risg o hunanladdiad o ganlyniad i ynysu cymdeithasol i brosesau tra chyflym i lanhau ambiwlansys sy’n cludo cleifion wedi’u heintio.

O’r chwith: Ed Lester-Card, Dr Chedly Tizaoui, Anthony Lewis a Dr Karen Perkins, o’r Coleg Peirianneg, Prifysgol Abertawe

GWEITHIO GYDA’N GILYDD I WELLA BYWYDAU ERS 1920

Myfyrwyr mewn gwisg ffansi ar gyfer RAG, 1922. Diolch i Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe (UNI/SU/PC/5/5)

Pryd hynny: O’r 1950au tan yn gymharol ddiweddar, roedd wythnosau RAG (Raise and Give) yn elfen hollbwysig o galendr y Brifysgol. Yn aml, er mawr syndod i’r gymuned leol, byddai myfyrwyr yn helpu i godi arian ar gyfer elusennau lleol drwy addurno cerbydau a gorymdeithio drwy’r dref arnynt a rasys pramiau rhwng Caerdydd ac Abertawe

Drwy garedigrwydd Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe (cyfeirnod UNI/SU/PC/5/5)

Nawr: Mae ein myfyrwyr yn dal i wirfoddoli er lles y gymuned leol heddiw. Camodd grŵp o fyfyrwyr Meddygaeth i Raddedigion i’r adwy i gynnig gofal plant brys i weithwyr iechyd yn Abertawe. Dysgwch ragor.

Y myfyrwyr Meddygaeth i Raddedigion o Brifysgol Abertawe sy'n cynnig gofal plant brys i weithwyr iechyd Abertawe.

Pryd hynny: Mae cymuned wedi bod wrth wraidd cenhadaeth Prifysgol Abertawe ers y cychwyn cyntaf. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, sefydlwyd bataliwn y Cartreflu yn y Coleg, fel yr oedd yn cael ei adnabod ar y pryd.

Drwy garedigrwydd Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe (cyfeirnod: UNI/SU/AS/4/1/2:95)

Gwarchodlu Cartref Coleg y Brifysgol Abertawe tua 1942 Diolch i Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe
Final year cohort of medical students stood on a staircase.

Nawr: Bron 100 mlynedd wedi hynny, mae ein myfyrwyr ysbrydoledig yn parhau i gefnogi’r gymuned drwy ymuno â rheng flaen y GIG yn y frwydr yn erbyn COVID-19. Dysgwch ragor

CALON EICH CYMUNED ERS CANRIF

Pryd hynny: Yn ystod Gŵyl Prydain ac mewn cyfnod o gyni, cynhaliodd Prifysgol Abertawe ei harddangosfa ar raddfa fawr ei hun ac agorodd ei holl adrannau i’r cyhoedd gan gynnig teithiau ac arddangosiadau, er mwyn pontio’r bwlch rhwng y coleg a’r dref.

Nawr: Bron 70 o flynyddoedd wedi hynny, rydym yn ymrwymedig o hyd i ddysgu gan ein cymuned drwy ein cyfranogiad yng Ngŵyl Wyddoniaeth Abertawe, Oriel Science ac, yn ddiweddaraf, drwy fentrau addysgu rhithwir a chefnogi ysgolion lleol.

Aelod o staff yn helpu plentyn gydag arbrawf gwyddonol
Llun hanesyddol o ddiwydiant copr rhyngwladol Cwm Tawe Isaf.

Pryd hynny: Ym mlynyddoedd cynnar y 1960au, cyfrannodd Prifysgol Abertawe’n sylweddol at gynllun adfywio Cwm Tawe Isaf, gan weddnewid llawer o’r tir diffaith, ôl-ddiwydiannol, a oedd yno ar y pryd.

Nawr: Heddiw, ar y cyd â Dinas a Sir Abertawe, mae Prifysgol Abertawe’n parhau i archwilio’r prosiect adfywio a arweinir gan dreftadaeth ar safle hen Weithfeydd Copr yr Hafod-Morfa. Dysgwch ragor am y prosiect.

Eich Cefnogaeth. Ein Prifysgol.
Cefnogwch ymchwil ac ymchwil pandemig Covid-19
ym Mhrifysgol Abertawe.