Pan oedd Bronwen Winters, sy’n dilyn gradd mewn Astudiaethau Americanaidd, yn mynd drwy gyfnod anodd, nid oedd yn rhaid iddi roi’r gorau i’w chwrs diolch i Gronfa Galedi Prifysgol Abertawe.
Roedd Bronwen wedi goresgyn llawer o rwystrau i gyrraedd y Brifysgol, ar ôl treulio’r rhan fwyaf o’i bywyd mewn gofal a symud cartrefi dros 30 o weithiau.
Ar ben yr heriau hynny, daeth wyneb yn wyneb â maen tramgwydd arall pan wrthododd ei banc gynnig gorddrafft iddi.
Fodd bynnag, llwyddodd Bronwen i sicrhau lle mewn llety diogel ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoelan drwy gymorth staff a Chronfa Galedi’r Brifysgol.
Meddai Bronwen: “Mae’r arian a’r cymorth yn fy ngalluogi i wneud llawer mwy yn fy mywyd na’r disgwyl.”
Mae hi bellach yn ffynnu ar ei chwrs gradd mewn Astudiaethau Americanaidd ac yn bwriadu parhau i astudio drwy ddilyn Gradd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol.
Yn ogystal â gwrthod gadael i’r anawsterau ei llethu, daeth Bronwen yn llysgennad ar gyfer Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach De-orllewin Cymru – menter sy’n helpu pobl o gefndiroedd llai traddodiadol i oresgyn rhwystrau. Mae Bronwen yn eiddgar i wneud gwahaniaeth ac mae’n gweithio gyda’r Brifysgol i sefydlu prosiect mentora i helpu pobl eraill yn yr un sefyllfa â hi.
Mae hi hefyd yn cymryd rhan yn ymgyrchoedd ffonio blynyddol y Brifysgol, gan godi arian ar gyfer myfyrwyr eraill sydd mewn cyfyng-gyngor.
Meddai: “Gwnaeth y Gronfa Galedi achub fy nyfodol – pe bawn i wedi gorfod gadael y Brifysgol, byddwn i wedi bod ar goll. Mae’r Brifysgol wedi rhoi cyfle i mi wneud gwahaniaeth ystyrlon i bobl eraill.”
Gall y Gronfa Galedi helpu i dalu am bethau megis bwyd, biliau, llyfrau, offer, llety a gofal plant.
Ar gyfartaledd, mae mwy na 700 o fyfyrwyr yn cyflwyno cais i’r Gronfa Galedi bob blwyddyn. Dim ond nifer cyfyngedig o fyfyrwyr y gall y Brifysgol eu cefnogi, felly mae llawer ohonynt yn aflwyddiannus, gwaetha’r modd.
Gwerthfawrogir pob cyfraniad at y Gronfa, sy’n darparu cymorth ariannol hanfodol i fyfyrwyr fel Bronwen.
Ceir mwy o wybodaeth drwy fynd i dudalennau Cronfa Galedi Prifysgol Abertawe.