Athro gwybodeg ym Mhrifysgol Abertawe a chyfarwyddwr Gwyddor Data Poblogaethau yn yr Ysgol Feddygaeth yw'r Athro David Ford.
Yn ogystal â bod yn un o'r cyd-sylfaenwyr, ef yw cyfarwyddwr y Banc Data Cysylltu Gwybodaeth Ddienw Ddiogel (SAIL), a SeRP (Secure e-Research Platform), a ddefnyddir yn fwyfwy gan ymchwilwyr a cheidwaid data ledled y byd i guradu a rhannu data'n ddiogel.
“Mae gan ein grŵp Gwyddor Data Poblogaethau ddiddordeb arbennig yn y gwaith o wella'r ffordd y gall llywodraethau a'r gymuned ymchwil yn ehangach yn y DU a'r tu hwnt ddefnyddio'r data a gesglir gan wasanaethau cyhoeddus – llywodraeth ganolog a lleol, asiantaethau cenedlaethol a'r GIG.
“Gall y data hwn, pan gaiff ei gysylltu a'i ddadansoddi'n drylwyr, gynnig dealltwriaeth hynod rymus a all fod yn gyfrifol am wella bywydau pobl o ddifrif.
“Mae Covid-19 wedi bod yn drychineb byd-eang, ond mae wedi pwysleisio i lawer o bobl, gan gynnwys aelodau'r cyhoedd, gwleidyddion ac arweinwyr sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus, fod data amserol o safon sydd wedi'i guradu'n dda yn hanfodol.
“Mae banc data SAIL bellach yn adnabyddus fel enghraifft o arferion da: mae ei model wedi cael ei efelychu sawl gwaith ledled y byd, ac mae'r dechnoleg y gwnaethom ei datblygu i ategu ei weithrediadau – SeRP – wedi cael ei rhannu a'i defnyddio'n helaeth yn y DU ac yn rhyngwladol.
“Mae datblygu SAIL i fod yn gyfrwng cenedlaethol Cymru ar gyfer ailddefnyddio data'n ddiogel wedi bod yn dalcen caled, ond mae bellach yn darparu ei wasanaethau ymhell y tu hwnt i Gymru, yn ogystal â churadu data o wasanaethau cyhoeddus o bob math.
“Rwyf wedi bod yn ymgyrchu'n bersonol i ddefnyddio data'r cyhoedd er lles y cyhoedd ers mwy nag 20 mlynedd. Er mwyn cynyddu swm y data sy'n cael ei gysylltu ac sydd ar gael, mae'n hanfodol bod ymddiriedaeth y cyhoedd yn cael ei chynnal bob amser.
“Mae rhan anferth o'm gwaith wedi ymwneud â datblygu dulliau cyfoes o ymdrin â data personol sensitif o bosib fel y gallwn addo preifatrwydd a diogelwch. Ochr yn ochr â hyn, rydym yn gwneud ein gorau i ddangos bod defnyddio data yn y ffordd hon yn effeithiol, ac y bydd yn newid pethau er gwell i bobl ar lawr gwlad.”