Mae'r Athro Gareth Jenkins wedi gweld llawer o ddatblygiadau yn y Brifysgol ers iddo ddechrau yma fel myfyriwr PhD ym 1993. Mae ef bellach yn Gyfarwyddwr Ymchwil yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac yn ddiweddar mae wedi cyhoeddi ei ganfed papur ar ymchwil semenol, sy'n amlinellu sut gellid gwneud diagnosis o ganser yr oesoffagws drwy brawf gwaed gwerth £30 yn y dyfodol.
Meddai’r Athro Jenkins: “Bydd llawer o ymchwilwyr yn llunio llawer mwy na chant o bapurau yn ystod eu gyrfaoedd, ond roeddwn yn meddwl ei bod hi'n braf bod fy nghanfed papur yn cyd-fynd â pharatoadau Prifysgol Abertawe i ddathlu ei chanmlwyddiant yn 2020.
"Dechreuais yn Abertawe yn archwilio mwtaniadau DNA ar gyfer fy PhD. Prif nod fy ngyrfa hyd yn hyn yw ceisio datblygu ffyrdd newydd o fesur y mwtaniadau DNA hynny."
Mae gwaith yr Athro Jenkins yn allweddol i gynnal enw da'r Brifysgol, yn enwedig wrth baratoi ar gyfer Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021.
Yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, rhestrwyd Prifysgol Abertawe yn y 23ain safle yn y Deyrnas Unedig, a rhestrwyd yr Ysgol Feddygaeth yn ail yn Uned Asesu 3 am safon gwaith ymchwil. Mae peth o'r llwyddiant hwnnw’n deillio o'r ymchwil i fwtaniadau a wnaed gan yr Athro Jenkins a'i gydweithwyr, gan gynnwys yr Athro Shareen Doak, sy'n arwain Grŵp Gwenwyneg In Vitro y Brifysgol. Gyda'i gilydd maent wedi bod ar flaen y gad o ran y gwaith i dyfu celloedd dynol mewn labordy i'w defnyddio wrth astudio a yw cyfansoddion prawf yn achosi mwtaniadau a'u cyswllt â chanser. Nod y gwaith hwn yw astudio mwtaniadau mewn pobl yn hytrach na chynnal arbrofion ar anifeiliaid.
Fel un o arloeswyr Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, mae'r Athro Jenkins yn falch ei fod wedi chwarae rhan yn ei thwf aruthrol ac erbyn hyn mae ganddo swyddfa yn adeilad yr Athrofa Gwyddor Bywyd y gwnaeth helpu i’w ddylunio.
“Ar ôl i mi gwblhau fy noethuriaeth, ystyriais adael Abertawe ond roedd yr Ysgol Feddygaeth ar fin dechrau ac roeddwn yn gallu gweld y byddai’n ddatblygiad mawr gyda chyfleoedd gwych ar gyfer ymchwil yn y dyfodol,” meddai.
“Pan oeddwn yn fyfyriwr PhD yn adran geneteg Prifysgol Abertawe, roedd 20 ohonom ond erbyn hyn mae gan yr Ysgol Feddygaeth 200 o fyfyrwyr PhD. Bu twf enfawr mewn cyfnod byr ac rydym yn falch ein bod yn gallu darparu cyfleoedd ymchwil gwych.”
I'r Athro Jenkins, yr ymchwil a'r awydd diddiwedd i arloesi a darganfod yw hanfod y Brifysgol, fel y bu erioed ac fel y bydd yn y dyfodol: “Bod yn feddwl agored yw hanfod gwaith ymchwil. Ni allwch gynllunio yn rhy bell i'r dyfodol, rhaid i chi ddilyn trywydd y diddordeb gwyddonol. Er bod fy rôl yn yr Ysgol Feddygaeth wedi newid, mae fy mrwdfrydedd dros ymchwil mor gryf ag erioed. Mae meddwl am weld yr hyn y bydd arbrofion y myfyrwyr yn eu datgelu yn fy ysgogi i ddod i'r gwaith yn y bore.”