Mae Dr James Cronin, sy'n ymchwilydd gyrfa gynnar ym Mhrifysgol Abertawe, wedi cael y cyfle i wneud gwaith ymchwil ynghylch a yw defnyddio nanoronynnau i dargedu celloedd canser yr ofari sy'n gallu gwrthsefyll therapi yn achosi i gelloedd canseraidd farw.
Meddai Dr Cronin: “Mae canser yr ofari'n achosi'r gyfradd marwolaethau uchaf o blith pob canser sy'n effeithio ar systemau atgenhedlu menywol ledled y byd. Hyd yn oed ar ôl ei drin yn llwyddiannus, mae posibilrwydd uchel y bydd y canser yn dychwelyd o fewn y blynyddoedd nesaf. Os bydd yn dychwelyd, fel arfer ni ellir ei iachau.”
Bydd ymchwil Dr Cronin yn targedu canser yr ofari sy'n gallu gwrthsefyll therapi drwy ddefnyddio proses o'r enw ferroptosis a achosir gan nanoronynnau haearn, sy'n ymhlygu rôl hanfodol haearn cellol ym marwolaeth celloedd canseraidd.