Yn Affrica, mae tacsis beic modur yn galluogi miliynau o drigolion gwledig i gael mynediad at farchnadoedd, addysg a chyfleusterau iechyd. Ond dim ond lle y mae ffyrdd ar gael y gallant wneud hynny'n effeithiol. Yn Liberia, dim ond llwybrau troed sy'n cysylltu chwarter y boblogaeth â'r rhwydwaith ffyrdd cenedlaethol. Mae gwella'r llwybrau hyn i fod yn draciau sy'n hygyrch i feiciau modur yn haws ac yn rhatach o lawer nag adfer ffyrdd cyswllt, heb sôn am eu hadeiladu. Ond mae cyfranwyr a llywodraethau'n gyndyn o weithredu heb ddata cadarn am effaith economaidd-gymdeithasol y llwybrau troed gwell hyn. Rhoddodd astudiaeth Dr Krijn Peters y data mawr eu hangen.
Roedd Dr Peters wedi gwneud gwaith maes helaeth yn ystod yr anghydfodau arfog yn Sierra Leone a Liberia ac yn eu sgil ar y broses o ailintegreiddio'r rhai a fu'n ymladd ac ailadeiladu ardaloedd gwledig ar ôl rhyfeloedd. Yn ôl ei waith ymchwil, roedd llawer o'r bobl a oedd bellach yn ddi-waith wedi dechrau gyrru tacsis beic modur. Roedd y sector hwn – a oedd yn ymddangos yn ddigymell ar ôl i ryfeloedd ddod i ben – yn darparu degau o filoedd o swyddi newydd.
Cyflwynwyd yr arsylwadau hyn i giz/gtz – y corff yn yr Almaen sy'n cyfateb i'r adran dros ddatblygu rhyngwladol – gan arwain at brosiect i adeiladu traciau. Ar yr un pryd, cafodd Dr Peters gyllid gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC)/DFID i asesu'r effaith economaidd-gymdeithasol. Casglwyd data sylfaenol o ddau glwstwr o bentrefi a chlwstwr cymharu o bentrefi yn 2016, cyn i'r traciau gael eu gwella. Cynhaliwyd arolygon terfynol yn 2018, flwyddyn ar ôl i'r gwelliannau gael eu gwneud.
- Effeithiodd y prosiect yn uniongyrchol ar oddeutu 2,500 o blant mewn 23 o bentrefi drwy wneud y canlynol:
- Helpu ffermwyr i ddechrau cynhyrchu ar gyfer marchnadoedd (lleol) drwy haneru amseroedd teithio a chynyddu'r symiau y gellid eu cludo
- Darparu cyfleoedd gwaith i bobl ifanc agored i niwed
- Helpu menywod a phlant, drwy leihau achosion o gludo llwythi ar y pen hyd at 80% a thrwy alluogi masnachu mân yn y pentrefi o ganlyniad i fynediad gwell at farchnadoedd trefol
- Darparu mynediad cyflymach a mwy cyfleus at gyfleusterau iechyd
- Gwella cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion gan nad oedd yn rhaid i ddisgyblion dreulio amser yn cludo llwythi i ymyl ffyrdd neu farchnadoedd.
Yn dilyn hynny, mae'r cysyniad o droi llwybrau troed yn draciau bellach yn rhan o gynllun drafft Liberia ar gyfer isadeiledd ffyrdd gwledig.