Graddiodd yr Athro Thomas o Brifysgol Abertawe gyda BA mewn Saesneg ym 1965. Yr Athro Thomas yw deiliad Cadair Emyr Humphreys mewn Llên Saesneg Cymru ac ef oedd sylfaenydd y Ganolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru (CREW), yn ogystal â bod yn gyfarwyddwr y ganolfan gynt.
Beth oedd eich rhesymau dros astudio ym Mhrifysgol Abertawe a’ch rhesymau dros ddewis llenyddiaeth Saesneg?
Hap a damwain oedd dod i Abertawe. Anelu at Rydychen yr oeddwn, ond bu fy nhad farw'n annisgwyl iawn a finnau ar drothwy Lefel A, a doedd fy mam ddim yn medru hawlio ceiniog o bensiwn. Hefyd fe chwalwyd mam yn seicolegol gan y sioc, a theimlais mai gorau oll fyddai aros yn agos at adre. Fe fu ond y dim i fi ddewis gwneud Hanes ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf. Roeddwn i'n ei chael hi'n haws o lawer trin y pwnc hwnnw na Saesneg, er i fi wneud llawn cystal yn y naill a'r llall. Doeddwn i ddim yn ffyddiog fod gen i ddawn yn Saesneg, ond fe wyddwn mai dyna'r pwnc agosaf at fy nghalon, ac felly fe fentrais ddewis hwnnw, gan dderbyn na fyddwn yn disgleirio.
Diolch am y ddelwedd: Llenyddiaeth Cymru Camera Sioned
Beth yw eich atgofion o fod yn Gymro Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe?
Fy mod i'n teimlo fy mod i wedi fy ynysu mewn môr mawr o Seisnigrwydd. Ond fe ges ymgeledd hefyd, gan fy mod yn medru dilyn cwrs Hanes yn y flwyddyn gyntaf a'r ail drwy gyfrwng y Gymraeg – diolch i Rhys Davies yn yr achos cyntaf a John Davies (sydd erbyn hyn yn enwog am fod yn awdur Hanes Cymru a gyhoeddwyd gan Penguin) yn yr ail.
Mae'r Gymraeg bellach yn cael ei chydnabod a'i gwerthfawrogi, nad oedd yn wir yn fy nyddiau cynnar i.
Beth oedd eich rhesymau dros aros yn Abertawe ar ôl graddio?
Cael fy mhenodi, a hynny'n gwbl annisgwyl, yn aelod o staff pan oeddwn i ond yn 21, ac ar ganol gwaith ar gyfer gradd uwch. Yna fe wnes ddewis aros am fod fy ngwreiddiau i yn ddwfn, nid yn y coleg ond yn yr ardal leol.
Rydych chi wedi ysgrifennu llawer o gyfrolau ar ddwy lenyddiaeth Cymru a llenyddiaeth Americanaidd – pa un ydych chi fwyaf balch ohoni?
Wn i ddim ai 'balch' yw'r gair, a does gen i ddim un ffefryn. Ond mae gen i bedair sy'n arddangos rhychwant fy ngwaith –rydw i'n ysgrifennu hanes diwylliannol yn ogystal â dehongliadau llenyddol (mae'n gas gen i'r term llipa 'beirniadaeth lenyddol') ac yn cwmpasu barddoniaeth y Taleithiau yn ogystal â dwy lenyddiaeth Cymru.
Felly: The Lunar Light of Whitman's Poetry (Harvard, 1987); Corresponding Cultures (Gwasg Prifysgol Cymru, 1997); In the Shadow of the Pulpit (Gwasg Prifysgol Cymru, 2010); R.S. Thomas: Serial Obsessive (Gwasg Prifysgol Cymru, 2013). Ond dwy yn unig a fydd yn fy ngoroesi i, a'r rheini i bob pwrpas gan awduron eraill – Emyr Humphreys ac R.S. Thomas!
Sut brofiad oedd derbyn eich OBE a chael eich urddo i Orsedd y Beirdd?
Mae'r OBE wedi bod yn embaras llwyr o'r dechrau. Es i ddim i'r palas i'w dderbyn, a fy nau reswm dros dderbyn yn y lle cyntaf oedd fod caredigion anhysbys wedi mynd i'r drafferth – nid bach, fe wn – i lunio enwebiad (heb i fi wybod, wrth gwrs) a'r gobaith y gallai fod o gymorth wrth gefnogi ceisiadau am grantiau gan bobl eraill a oedd, fel finnau, yn gweithio ym maes ymylol diwylliannau Cymru. Fydda i byth yn arddel yr OBE ond yn y cyswllt hwnnw. Ond rwy'n ofni mai ofer fu fy ngobeithion.
Y gwrthwyneb yn llwyr oedd yr Orsedd. Fe ges fy enwebu gan fy hen ffrind annwyl Hywel Teifi Edwards, a hynny gyda golwg benodol ar fy urddo yn ei 'Eisteddfod ef,' sef Eisteddfod Llanelli yn 2000. Felly mae'n dal yn anrhydedd yr ydw i'n ei werthfawrogi'n enbyd.
Beth yw uchafbwynt eich gyrfa academaidd?
Cwestiwn anodd dros ben. Fe weddnewidiwyd fy ngyrfa pan y'm gwnaed yn Gymrawd yr Academi Brydeinig ym 1995 – anrhydedd prin iawn, ac anrhydedd pennaf unrhyw ysgolhaig yn y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Hefyd bu fy nghyfnod fel Athro yn Harvard yn newid byd eithriadol gyffrous, ac yn hwb enfawr i'm hyder. Ac yna ces y fraint o fod yn un o'r llond dwrn a sefydlodd Gymdeithas Ddysgedig Cymru, a'r fraint o fod yn Is-Lywydd cyntaf.